Mae’r Amgueddfa wedi bod ar agor ers blwyddyn bellach, ond mae’n syndod faint o bobol leol sydd heb daro heibio!
Mae wedi’i sefydlu yn hen adeilad Porthor y Brifysgol (Porter’s Lodge) yn Stryd y Coleg,- ar y dde wrth eich bod yn mynd drwy brif fynedfa’r Coleg. Gwirfoddolwyr o Gymdeithas hanes Llambed sy’n casglu creiriau a gofalu amdanynt, a bod yno i groesawi’r ymwelwyr Dydd Mawrth, Iau a Sadwrn o 10yb hyd 4yp.
Mae yna gasgliadau gwahanol yn cael eu harddangos eleni, – felly dewch i’w gweld. Cofnodir blynyddoedd y Rhyfel Mawr, yn mynd gyda chanmlwyddiant y flwyddyn, felly cofio cysylltiadau Llambed a’r Rhyfel yn 1915 sydd yno nawr.
Dangoswyd llawer o ddiddordeb eisioes yn y casgliad sy’n cofnodi hanner can mlynedd ers cau’
r Rheilffordd o Aberystwyth i Gaerfyrddin. Ceir llawer o hanes y rheilffordd o’r adeg cyntaf y Manchester & Milford.
Cofir am Genhadwr o ardal Ffaldybrenin ym mherson Timothy Richard; aeth i China gyda gwasanaeth tramor y Bedyddwyr, a daeth yn ffigwr amlwg iawn yn y wlad honno,- hyd yn oed ei ddyrchafi’n ‘Mandarin’.
Gwelir casgliadau yn ymwneud ag Amaethyddiaeth, a’r diwydiant llaeth, – hyn dim ond i enwi ychydig o’r pethau diddorol sydd i’w gweld yno.
Peidiwch ag oedi, – bydd rhai o’r casgliadau yn newid eto ddiwedd yr Haf. Bydd croeso mawr i chi yno.
Beth am fanteisio ar gyfle i brisio’ch hen bethau ! Dydd Llun, Mehefin 8fed, o 11yb tan 3yp, bydd arbenigwr o gwmni Peter Francis, Caerfyrddin yn bresennol yn yr Amgueddfa i brisio’ch trysorau am ddim. Os hoffech mwy o wybodaeth am yr Amgueddfa neu’r Gymdeithas Hanes,- ewch i wefan Cymdeithas Hanes Llambed.