C.FF.I Cwmann yn Rali Sir Gar

gan Aled Bowen

Ar ôl yr holl ymarferion hwyr fe gyrhaeddodd aelodau CFFI Cwmann safle sioe Caerfyrddin ar gyfer Rali Sir Gâr 2015.

Gwnaeth yr aelodau droi eu llaw at sawl sgil gwahanol yn cynnwys gosod blodau a phapuro wal. Er bod y clwb yn un fach fe wnaethom yn hynod o dda, a chipio cwpwl o wobrau. Da iawn Lois Price am ddod yn gyntaf yn gosod blodau o dan 18 ar y thema teulu. Hefyd fe wnaeth Manon Williams dod i’r brig am baentio cynfas i wneud â theulu ffermio o dan 16. Aelodau eraill a wnaeth yn dda oedd Rhian Thomas a Carys Thomas, yn ail yn y ‘Generation Game’ gan addurno dau bot iogwrt. Roedden ni hefyd wedi darganfod un neu dau Gordon Ramsey a Delia Smith newydd wrth i Nia Haf Thomas a Lois Price ddod yn drydydd yn y coginio, ac yn dynn wrth eu sodlau roedd Hari Butten ac Iwan Williams a ddaeth yn bedwerydd – da iawn chi bois.

Hoffem ar ran y clwb diolch i’r holl rai sydd wedi helpu â’r paratoi ar gyfer y rali, fel arfer – roedd hi braidd yn funud olaf, ond fe ddaethom trwyddi!

Nia a LoisManon

Blodau Loisrhian a carysHari A Iwan