Stori’r Sbwriel : Ymateb i reolau ailgylchu newydd i fusnesau

O’r 6ed o Ebrill 2024 mi fydd rheolau ailgylchu yn y gweithle yn newid.

gan Ifan Meredith

 

O’r 6ed o Ebrill 2024, mi fydd rhaid i fusnesau wahanu eu gwastraff yn ôl Papur, Bwyd, Gwydr, Metalau, Plastig, Tecstiliau a Chyfarpar Trydanol. Mae hyn yn gam, yn ôl Llywodraeth Cymru, i ‘wella ansawdd y gwaith ailgylchu’ gyda’r gobaith i gynyddu faint o bethau sy’n cael eu hailgylchu.

“wedi gorfod buddsoddi tipyn o arian”

Yn lleol, cwmni gwastraff LAS sy’n ailgylchu nifer o wastraff busnesau ardal Llanbed. Mae’r rheolau newydd wedi costio’n ddrud i gwmni ailgylchu LAS.

“gorfodi costau ar fusnesau bach”

Bydd y newid yn cael effaith ar fusnesau lleol fel gwesty’r Falcondaoe. Yn ôl Lisa Hutton, mae’r rheolau yma yn ychwanegu costau i fusnesau gan ddatgan nid yw “cychwyn gyda busnesau bach, sydd yn dioddef eisoes, yn mynd i gael effaith ar Gymru yn ei chyfanrwydd”.

Amddiffyn y rheolau mae Llywodraeth Cymru gan ddatgan mai eu bwriad yw i “wella ansawdd y ffordd rydym yn casglu a gwahanu gwastraff”.

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru fydd yn rheoleiddio’r rheolau, nhw sy’n “gyfrifol am ofalu bod deunyddiau’n cael eu gwahanu a’u casglu’n gywir”.

“Mae Cymru ar hyn o bryd yn drydydd yn y byd o ran ailgylchu gwastraff o gartrefi, a gobeithiwn y bydd y rheolau ailgylchu newydd yn golygu cynnydd mewn cyfraddau ailgylchu o weithleoedd”- Cyfoeth Naturiol Cymru

Dweud eich dweud