Carnifal a Mabolgampau Cwmann

gan Sian Roberts-Jones
Y Beirniaid
Y Beirniaid

Ar brynhawn godidog ar Fai 23ain, cynhaliwyd Carnifal a mabolgampau Cwmann ar gae’r pentref.  Roedd y cae yn edrych yn lliwgar ac yn llawn bwrlwm gyda’r frigad dân, yr heddlu, Mike Morgan o St John’s, castell bownsio a gweithgareddau eraill amrywiol yn diddanu pawb heb sôn am y gwisgoedd ffansi a phawb yn hamddenol yn mwynhau’r prynhawn yn yr heulwen braf.  Llywydd ein dydd eleni oedd Rhiannon Lewis, Tanlan, a chawsom araith ddifyr ganddi yn sôn am ei hatgofion o’r carnifal a diolch yn fawr iddi am ei rhodd hael i goffrau’r pentref. 

Yr Osgordd
Yr Osgordd

Teithiodd y frenhines a’i gosgordd drwy’r pentref ar lori W.D.Lewis a oedd wedi cael ei haddurno’n hardd iawn gan eu rhieni a diolch iddynt am eu gwaith caled.  Ein brenhines am eleni oedd Beci Harrison, y morwynion oedd Mali Fflur Jones ac Elen Medi Jones, y gweision bach oedd Cassidy Edwards a Trystan Evans a brenhines y rhosod oedd Jazmine Carroll.  Roedd pob un ohonynt yn edrych yn hardd iawn ac wedi gwneud ei gwaith â graen, a chawsom araith bwrpasol iawn gan Beci.

Roedd y gwaith anodd o feirniadu’r carnifal eleni yn cwympo ar ysgwyddau Lois Williams a Bethan Williams, ac er nad oedd niferoedd y cystadleuwyr yn uchel iawn o’i gymhau â’r gorffennol, roedd y safon a’r ymdrech yn parhau’n uchel.  Roedd y canlyniadau fel a ganlyn:

Y Buddugwyr
Y Buddugwyr

CARNIFAL: Cylch Meithrin – 1af Chloe Ling, 2il Esther Llwyd, 3dd Aron Russell; Derbyn – 1af Lyndon Gale, 2il Alaw Maecharton; Bl 1 a 2 – 1af Tudur Llwyd, 2il Rhun Davies, 3dd Megan Dafydd; Bl 3 a 4 – 1af Gwenllian Llwyd; Bl 5 a 6 – 1af Dafydd Jones; Uwchradd – 1af Daniel Jones; Pencampwr – Tudur Llwyd; Pâr Gorau – 1af Daniel a Dafydd, 2il Cai a Chloe, 3dd Rhun a Seren a Gwenllian a Tudur.

MABOLGAMPAU: Rasus Merched Meithrin – 1af Maisie Wright, 2il Elin Dafydd, 3dd Cara Harrison; Bechgyn Meithrin: 1af Carter Lee, 2il Oliver Readwin, 3dd Ifan Jones; Merched Derbyn – 1af Maisie, 2il Deina Harhy; Bechgyn Derbyn – 1af Gruffudd Roderick, 2il Sion Evans, 3dd Trystan Williams; Bechgyn Derbyn Hŷn – 1af Friley Wright, 2il Brychan Williams; Merched Bl 1 – 1af Ellie-May Jones, 2il Sioned Kersey, 3dd Jasmine Carroll; Bechgyn Bl 1 – 1af Dion, 2ilHari Jones,3dd Ifan Jones; Merched Bl 2 – 1af Casi Gregson, 2il Laura, 3dd Ruby; Bechgyn Bl 2 – 1af Rhys Harrhy, 2il Morgan, 3dd Rhys Jones; Merched Bl 3 – 1af Marged Jones; Bechgyn Bl 3 – 1af Llŷr Ifan, 2il Rhun Jones, 3dd Regan Joness; Merched Bl 4 – 1af Gwenllian Llwyd, 2il Phaye Jones, 3dd Niomi Caroll; Bechgyn Bl 4 – 1af Jamie Griffiths, 2il Sion Harrhy, 3dd Logan Jones; Bechgyn Bl 5 – 1af Daniel Morgans; Merched Bl 6 – 1af Undeg Jones, 2il Lowri Fflur, 3dd Gwennan Rowcliffe; Bechgyn Bl 6 – 1af Owen Rowcliffe, 2il Scott Griffiths, 3dd Dafydd Jones.  Rasus Bagiau Ffa Meithrin – 1af Oliver Readwin, 2il Elin Dafydd, 3dd Maisie Wright; Derbyn isaf – 1af Deina Harrhy, 2il Gruffudd Roderick, 3dd Owen Jac; Derbyn Hŷn – 1af Brychan Williams, 2il Finlay Loright; Bl 1 – 1af Harri Jones, 2il Louis Ellis, 3dd Dion Jones; Bl 2 1af Oscar, 2il Casi Gregson, 3dd Ruby McCowan; Bl 3 – 1af Regan Jones, 2il Rhun Jones, 3dd Llŷr Ifan; Bl 4 – 1af Elen Medi Jones, 2il Patricia, 3dd Siôn Harri; Bl 5 – 1af Daniel Morgan; Bl 6 – 1af Indeg Jones, 2il Gwenan, Corrina; 100m Merched – 1af Beca Jones, 2il Cara Jones, 3dd Naomi Howell; 100m Bechgyn – 1af Rupert Geddis, 2il Oscar Evans, 3dd Leon Homes; 100m Menywod – 1af Beca Russell, 2il Rhian Williams, 3dd Helen Davies; 100m Dynion – 1af Llion Russell, 2il Dylan, Robert; Rhwystrau Merched – 1af Beca, 2il Naomi, 3dd Shanon; Rhwystrau Bechgyn – 1af Owain, 2il Rupert, 3dd Oscar.  Raffl – Ifan Llew, Dafydd a Bethan Williams, Lena Williams.

Mae’n diolchiadau yn niferus; i’r holl bobl a gynorthwyodd ar y dydd er mwyn sicrhau trefn a llwyddiant; i’r bobl hynny a weithiodd yn ddiwyd o flaen llaw i wneud y diwrnod yn bosibl; i’r Frigad dân, yr heddlu a Mike Morgan am eu presenoldeb a’u cyfraniad i’r dydd; i’r W.I am baratoi’r bwyd; i’n llywydd, beiriniaid a’r frenhines a’i gosgordd; W.D.Lewis am fenthyg y lori; Robert’s Garden Centre am rhoi benthyg y coed ar gyfer lori’r frenhines; i Emyr Jacob am fenthyg y BBQ; i Gethin Briwsion, Simon Hall Meats a Teify Forge am eu cydweithio cyson ac wrth gwrs i noddwyr y dydd Douglas Bros am eu rhodd hael.