Cafwyd diwrnod llwyddiannus yng Nghneifio Llambed 2015 a gynhaliwyd ddydd Sadwrn 18fed o Orffennaf ar Fferm Capeli, Cribyn. Dechreuodd y cystadlu tua 8:30yb, gyda’r dosbarth iau yn cychwyn y diwrnod, a 34 cneifiwr yn cystadlu. Yna daeth yn amser rhagbrawf i’r dosbarth canolradd, gyda 60 yn cystadlu. Ar ôl hyn, y rowndiau cynderfynol i’r ddau ddosbarth. Cafwyd rhagbrofion i’r Cneifio Gwellau gydag 8 cystadleuwr, rhagbrofion i’r ddau ddosbarth olaf sef y dosbarth uwch lle’r oedd 47 yn cystadlu, a’r dosbarth agored gyda 37 yn cystadlu, yna’r rowndiau cyn derfynol i’r ddau ddosbarth. Nesaf cafwyd prawf rhyngwladol rhwng Cymru a Ffrainc, ac yna’r ffeinal i’r dosbarth iau a’r canolradd, cyn cael prawf rhyngwladol arall rhwng Cymru a Seland Newydd – uchafbwynt y diwrnod i rai. Ac yna gorffen y diwrnod gyda’r ddau ffeinal mawr i’r dosbarth uwch ac agored.
Roedd dros £2,700 o wobrau ariannol i’w ennill, dyma oedd y canlyniadau:
- Dylan Evans
- Rhys Douglas
- Jonny Rees
- Huw Williams
- Josh Page
- Joe Price
- Dion Edwards
- Dylan Jones
- Llewelyn Williams
- Ilan Rhys Jones
- Dewi Williams
- Steffan Jenkins
- Julien Dincq
- Lloyd Rees
- Mark Dyke
- Jacob Moore
- Llywelyn Williams
- Neil Lawrence
- Gareth Daniel
- Richard Jones
- Gwion Lloyd Evans
- Jack Fagan
- David Fagan
- Rhys Jones
- Cymru – Ian Jones a Aaron G Hughes
- Ffrainc – Thimo Resneau a Christophe Riffaud
- Seland Newydd – Dion King a David Fagan
- Cymru – Gwion Evans a Rhys Jones
- Gareth Owen
- Elfed Jackson
- George Mudge
- Rheinallt Hughes
- Mark Armstrong
- Elgar Hughes