Côr Meibion Cwmann yn canu yn Neuadd Albert

gan Rob Phillips

Cor tu allan i Neuadd Albert

Aeth nifer o aelodau Côr Meibion Cwmann a’r Cylch i Lundain penwythnos diwethaf (8-10 Mai) i ganu mewn cyngerdd gyda Chymdeithas Corau Meibion Cymru ddydd Sadwrn 9fed Mai. Daeth 22 côr meibion o bob rhan o Gymru, a chorau Cymraeg o Loegr, Awstralia a De Affrig i gymryd rhan, ac roedd dros 700 ohonom yn canu. Aeth 15 aelod o Gôr Cwmann, ynghyd â’n Llywydd Alun Williams, ein harweinydd Elonwy Davies a’n cyfeilydd Elonwy Pugh Huysmans, a nifer o gefnogwyr eraill, o Lambed fore Gwener ar gyfer y gyngerdd. Tra roedd y corau yn ymarfer bore Sadwrn, aeth rhai o’r cefnogwyr i siopa neu ymweld â safleodd diddorol, ond roedd pawb yn Neuadd Albert erbyn i’r gyngerdd gychwyn.

2015-05-08 14.28.18-w

Ymhlith yr unawdwyr oedd Mari Haf Kelly ar y delyn a Charlotte Vaughan, Aaron Pryce-Lewis a Ben Smith yn canu. Arweinydd y cor oedd Dr Alwyn Humphreys; Caradog Williams oedd yn cyfeilio ar y piano a Huw Tregelles Williams ar yr organ. Yn ychwanegol i’r rhaglen a baratowyd, canwyd Gwahoddiad fel teyrnged i John Tudor Davies a fu farw yn ddiweddar.

Roedd diweddariadau cyson ar dudalen Facebook a chyfrif Trydar y côr.

albert-hall3-w

Yn dilyn y gyngerdd, bu llawer o ganu ym mar yr Holiday Inn, ond cymharol dawel oedd y daith yn ôl ar y bws ddydd Sul! Hoffai’r côr ddiolch yn fawr i’r rhai a ddaeth i’n cefnogi, ac i’n harweinydd a chyfeilyddes wnaeth gymaint o waith yn ein paratoi ar gyfer y gyngerdd.

2015-05-09 13.03.16-w

 

1 sylw

Shân Jones
Shân Jones

Cyngerdd bendigedig a chwmni difyr … a ffotograffydd penigamp (RP)!

Mae’r sylwadau wedi cau.