gan
Bethan Payne
Bu trigolion ardaloedd cyfagos yn dawnsio’n frwd mewn twmpath a gynhaliwyd yn Neuadd Goffa Llangybi ar 29 Mai. Gydag Erwyd Howells wrth y llyw a Bryan yr Organ yn cyfeilio bu tipyn o hwyl a sbri gyda phobl o bob oed yn cymryd rhan.
Trefnwyd y noson gan Odwyn Davies er mwyn codi arian i Andrew Jones a’i deulu yn dilyn damwain drychinebus yn Chwefror 2014 pan anafwyd Andrew wrth i ddrws chwythu yn ei erbyn. O ganlyniad i’r anafiadau mae Andrew wedi bod mewn coma ers y ddamwain.
Roedd y twmpath yn gyfle i gymdogion a ffrindiau’r teulu ddod ynghyd i ddangos eu cefnogaeth i ŵr sydd wedi bod yn aelod ffyddlon o’r gymuned dros y blynyddoedd ac roedd yn braf gweld cymaint o ffrindiau’n dod at ei gilydd i gefnogi’r noson.