Cystadlu da yn y 25ain Ffair Ram

Ffair Ram 2015

Ffair Ram
gan Ffair Ram
Gwerthu'r cynnyrch
Gwerthu’r cynnyrch

Cynhaliwyd y 25ain Ffair Ram ar gae pentref Cwmann ar y 12fed Medi. Cafwyd diwrnod teg o ran tywydd a chefnogaeth dda yn ystod y dydd.

Testun balchder eleni oedd cael dathlu chwarter canrif o gynnal y sioe bentref.  Talodd Eirios Jones, Cadeirydd Ffair Ram deyrnged i’r gwirfoddolwyr dros y blynyddoedd.  Cafwyd arddangosfa o bosteri ac adroddiadau papur newydd yn y ganolfan hefyd.

Cafwyd gweithgareddau llwyddiannus yn ystod y dydd o dan lywyddiaeth Mr a Mrs Dafydd a Delyth Jones, Ffosyffin. Cafwyd araith bwrpasol gan Meleri’r ferch ar eu rhan.

Yr hen beiriannau
Yr hen beiriannau

Cafwyd cystadlu brwd ym mhob cystadleuaeth yn yr adrannau isod ac arddangosfa arbennig o dda o hen beiriannau.

Gwerthwyd y cynnyrch ar ddiwedd y dydd gan Ann Davies a chodwyd swm sylweddol tuag at Nyrsys Macmillan.

Dyma enillwyr y Gwobrau:

Adran Fferm – Gareth Russell, Llysiau a Ffrwythau – Stan Evans, Blodau – Muriel McMillan, Coginio – Pat Jones, Cyffeithiau / Gwinoedd – Helen Roberts,

Y Salad Ffrwythau
Y Salad Ffrwythau

Ysgol Feithrin – Eli Griffiths, Dosbarth Derbyn – Deina Evans, Blwyddyn 1 a 2 – Ellie Gregson, Blwyddyn 3 a 4 – Casi Gregson, Blwyddyn 5 a 6 – Gwenllian Llwyd, Ysgol Uwchradd – Shannon Jones,

Arlunwaith a Ffotos – Helen Davies, Crefftau Cefn Gwlad – Alun Jones, Gwaith Llaw – Eirlys Jones,

Yr enillwyr
Yr enillwyr

Adran y Defaid – Felindre,

Cwpan Sialens Felindre Uchaf – Stan Evans, Cwpan Sialens Felindre Isaf – Hendai, Cwpan Sialens Wyn a Mary – Carwyn Lewis, Cwpan Sialens Eric Harries – Tomos Jones, Cwpan Sialens Teulu Hendai – Carwyn Lewis, Cwpan Sialens Dalgety – Carwyn Lewis, Cwpan Sialens Bronwydd – Helen Roberts.

Hoffai’r swyddogion ddiolch i bawb a fu’n helpu ac am bob cefnogaeth.

Gellir gweld mwy o luniau ar wefan Ffair Ram.