Great North Run

gan Sian Roberts-Jones

Great North RunAr Ddydd Sul, Medi 13eg roedd tua 57 mil o redwyr yn llenwi strydoedd Newcastle Upon Tyne wrth gymeryd rhan mewn hanner marathon poblogaidd y Great North Run.  Ymysg y miloedd roedd aelodau o glwb rhedeg Sarn Helen sef Gethin Jones a Sian Roberts-Jones a oedd wedi penderfynnu rhedeg er mwyn codi arian i elusen Motor Neurone er cof am eu wncwl Raymond Roberts.

Dechreuodd y ddau redeg 6 mlynedd yn ôl yn eu ras gyntaf sef hanner marathon Caerdydd yn 2009, 4 mis arôl colli Raymond, a llwyddwyd i godi swm sylweddol iawn bryd hynny i’r elusen. Ers hynny mae’r rhedeg a’r casglu arian wedi parhau, ac felly’n cynnwys yr arian a gasglwyd ar gyfer ras y Great North Run sef dros £1000, mae’r gronfa goffa hyd yn hyn wedi cyrraedd dros £10,000. 

Roedd penwythnos y Great North Run yn benwythnos i’w gofio  – gyda’r awyrgylch anhygoel, y gefnogaeth ddi-stop o ddechrau’r ras hyd at y llinell derfyn, y gerddoriaeth, a’r “Red Arrows” yn hedfan fry yn gwneud arddangosfeydd arbennig. 

Roedd yn gwrs eithaf heriol a oedd yn dechrau yng nghanol dinas Newcastle ac yn gorffen ar yr arfordir yn South Shields ac roedd hi’n ddringfa raddol am y rhan fwyaf o’r cwrs hyd nes iddynt gyrraedd y filltir olaf i’r llinell derfyn a oedd yn teimlo’n ddi-ddiwedd!  Llwyddodd Gethin i orffen mewn amser o 1 awr 31 munud a hynny heb unrhyw ymarfer o gwbl! Gorffennodd Siân yn ei hamser cyflymaf o 1 awr 40 munud a 5 eiliad.  Hoffai’r ddau ddiolch o galon I bawb am bob cefnogaeth a’r rhoddion hael.