Bydd Emyr Llewelyn yn traddodi Darlith Goffa Islwyn Ffowc Elis fel rhan o Ŵyl Golwg eleni, gan drafod gwaith ei dad, T. Llew Jones.
‘Gwaith fy Nhad’ ydy teitl addas iawn y ddarlith, ac mae’r pwnc yn un amserol wrth ddathlu 100 mlynedd ers geni un o ffigyrrau llenyddol mwyaf Cymru eleni.
Sefydlwyd Darlith Goffa Islwyn Ffowc Elis ym mis Medi 2013, fel rhan o’r Ŵyl Golwg gyntaf a gynhaliwyd i nodi pen-blwydd cylchgrawn Golwg yn 25 oed.
Bryd hynny, ac yn ystod Gŵyl Golwg llynedd, llwyfanwyd y ddarlith ar Gampws y Brifysgol yn Llanbed, ond eleni mae’n symud i Festri Brondeifi fel rhan o ymdrech gan gan yr ŵyl i ddefnyddio mwy o leoliadau yn y dref ei hun.
Mae’r ddarlith i’w chynnal ar nos Iau 10 Medi, a chroeso mawr i bawb.
Yn ogystal â’r Ddarlith Goffa, mae’r trefnwyr wedi cyhoeddi manylion gweddill arlwy Gŵyl Golwg eleni.
Ar nos Wener 11 Medi bydd y digrifwr o Lanbed, Gary Slaymaker yn perfformio ei sioe standyp newydd, Siwgwr Lwmp, am y tro cyntaf yng Nghlwb Rygbi Llanbed.
Ag yntau’n dioddef o glefyd y siwgr, mae sioe gomedi newydd Slaymaker yn ymdrin a diabetes, ac mae elw’r noson yn mynd i elusen Diabetes Cymru.
Bydd yr ŵyl yn cloi eleni ar ddydd Sadwrn 12 Medi gyda diwrnod ‘Hwyl gydag Wcw a’i Ffrindiau’ yn Neuadd Ysgol Bro Pedr.
Mae’r diwrnod hwyl yn cynnwys llwyth o weithgareddau i blant gan gynnwys cymeriadau poblogaidd Sali Mali, Alun yr Arth, criw cyfres Wenfro ac wrth gwrs Wcw.
Bydd mwy o fanylion yn ymddangos ar wefan Gŵyl Golwg ar ar y digwyddiad Facebook, neu gallwch ddilyn cyfrif Twitter yr ŵyl am y newyddion diweddaraf.