Gŵyl gerdd Glaston-Dderi yn dod i Langybi

gan Bethan Payne

Ar nos Iau, Gorffennaf  9fed, cynhaliwyd gŵyl gerdd, Glaston-Dderi, yn Ysgol y Dderi, Llangybi lle’r oedd pob dosbarth, o’r Meithrin i Flwyddyn 6, yn perfformio caneuon cyfoes. Roedd yn bleser clywed y canu a gweld y gwisgoedd hardd ac roedd pawb yn amlwg yn mwynhau.  Gwelwyd blwyddyn 6 yn perfformio am y tro olaf cyn iddynt symud ymlaen at antur newydd yn yr ysgol uwchradd ym mis Medi. Mae’n teimlo fel ddoe pan wnaeth nifer fawr ohonynt ymddangos am y tro cyntaf ar lwyfan y Dderi, yn ddisgyblion y dosbarth Meithrin. Dymunwn yn dda iddynt yng nghyfnod nesaf eu haddysg.

Yn ogystal â pherfformiadau’r disgyblion bu hefyd adloniant gan gerddorion (a rhieni) lleol megis The Golden Geckos, Lisa a Will ac Ali a Wynford. Roedd rhieni a ffrindiau’r ysgol wedi cyfrannu seigiau sawrus yn ogystal â ffrwythau, diodydd a barbeciw ac, o ganlyniad, darparwyd  gwledd i bawb. Roeddwn yn ffodus dros ben bod cwmni lleol Smiddereens (sydd hefyd yn rhieni i ddisgyblion yn yr ysgol) wedi rhoi benthyg eu pabell syrcas hardd er mwyn dal y llwyfan a’r gynulleidfa.

Roedd yna awyrgylch hyfryd ar y noson gyda phawb yn ymlacio wrth fwynhau’r adloniant a’r bwyd. Rhaid diolch i staff a disgyblion y Dderi am baratoi’r eitemau ac am eu perfformiadau brwd ac egnïol a hefyd i staff, rhieni a ffrindiau’r ysgol am eu cyfraniadau hael – boed yn gyfraniadau o fwyd/diod neu o’u hamser. Heb y cyfraniadau gwerthfawr hyn ni fyddai’n bosib cynnal digwyddiad mor llwyddiannus. Codwyd swm sylweddol o £1,400 fydd yn mynd tuag at gyfoethogi profiadau’r disgyblion yn yr ysgol.