Oni bai eich bod wedi byw dan garreg am rai wythnosau, all neb ddweud nad yw’n gwybod fod yna Etholiad Cyffredinol ar y gorwel! P’un ai eich bod chi’n anorac gwleidyddol neu’n teimlo’n llugoer am y ras i ddewis ein Aelod Seneddol nesaf, gobeithio y gwnawn ni i gyd yn fawr o’r fraint a’r hawl sydd gyda ni i bleidleisio ar Fai 7fed.
Yn Neuadd y Celfyddydau ar gampws Llambed o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant heno (20 Ebrill) cynhaliwyd hystings ar gyfer ymgeiswyr yr Etholiad Cyffredinol. Y mae chwe ymgeisydd, ond pump yn unig a ddaeth i Lambed (ymgeisydd y Ceidwadwyr oedd yr un absennol):
- Henrietta Hensher (Ceidwadwyr)
- Gethin James (UKIP)
- Mike Parker (Plaid Cymru)
- Huw Thomas (Llafur)
- Daniel Thompson (Plaid Werdd)
- Mark Williams (Democratiaid Rhyddfrydol)
Flora McNerney, Llywydd Undeb y Myfyrwyr, oedd yn cadeirio’r noson, ac er nad oedd erioed wedi cadeirio sesiwn debyg o’r blaen, gwnaeth y gwaith yn ddi-lol a naturiol. Cafodd yr ymgeiswyr gyfle i wneud araith agoriadol ac araith i gloi, a chafwyd pum cwestiwn o’r llawr.
Ymhlith y pynciau a drafodwyd roedd:
- toriadau i wasanaeth yr heddlu a iechyd meddwl
- swyddi a chyfleoedd am waith mewn ardal wledig fel Llambed
- ymfudo a myfyrwyr rhyngwladol
- cymorth ymarferol i gyn-filwyr
- polisïau’r pleidiau ar gyfer cefnogi’r celfyddydau
Braf oedd clywed y cwestiwn olaf yn cael ei holi’n y Gymraeg, a thri o’r ymgeiswyr yn ateb yn y Gymraeg.
Aeth yr awr a thri-chwarter yn sydyn iawn. Roedd hi’n ddifyr gwrando ar y gwleidyddion yn trafod materion sydd o bosib yn ein cyffwrdd ni o ddydd i ddydd. Efallai bod angen mwy o gyfarfodydd gwleidyddol tebyg arnom yn Llambed – ac yn sicr, mae eisiau sicrhau bod mwy o drafod yn digwydd yn y Gymraeg.