Yn gynnar ar fore’r 13eg o Fedi roedd dros 2000 o gystadleuwyr wrthi’n ymgasglu ar draeth Dinbych-y-Pysgod i ddechrau ar ran gyntaf her Ironman. Gyda rhyw 10,000 o wylwyr yn llenwi’r heolydd, y traeth a’r llithrfa roedd y naws yn wefreiddiol ac roedd clywed yr anthem genedlaethol wrth i’r haul wawrio yn brofiad teimladwy tu hwnt. Wrth i’r corn ganu, dyma’r cystadleuwyr proffesiynol yn cychwyn y gystadleuaeth gyda gweddill y cystadleuwyr yn dechrau ar y ras 2.4 milltir rhai munudau yn ddiweddarach. Gyda nifer o gystadleuwyr yn brwydro i ymdopi â’r amodau garw roedd y gwasanaethau achub yn gweithio’n galed i sicrhau bod pawb yn ddiogel trwy gydol y ras. Ar ôl cwblhau’r cam cyntaf yn y môr, rhedodd y cystadleuwyr ar hyd y rhodfa i gyfeiliant sŵn clychau, gweiddi a chlapio’r gwylwyr cyn iddynt gyrraedd y maes trawsnewid er mwyn cychwyn ar y cam nesaf, sef y ras feicio 112 milltir o amgylch cefn gwlad arfordirol Sir Benfro. Gyda dros 8000 droedfedd o ddringo roedd cefnogaeth y tyrfaoedd yn hollbwysig i gynnal y seiclwyr ac roedd yn braf gweld nifer ohonynt yn cydnabod y gefnogaeth frwdfrydig.
Ar derfyn y ras feicio roedd yn amser cychwyn ar farathon 26.2 milltir, sef pedwar lap rhwng Dinbych a phentref New Hedges. Wedi i’r enillydd, Jesse Thomas (UDA) gwblhau’r her mewn 8.57.33 gwelwyd llif cyson o gystadleuwyr, gyda Shane Williams a Richard Webster yn eu plith, yn croesi’r llinell dros yr oriau nesaf, pob un ohonynt yn cyflawni buddugoliaeth personol, arbennig. Llongyfarchiadau gwresog i bob un ohonynt, yn enwedig i Gareth Payne, Gareth Hodgson a Jonathan Evans o ardal Llambed.