Bydd cynnyrch newydd gan dau o gymeriadau plant amlycaf Cymru’n cael ei lansio yn niwrnod Hwyl gydag Wcw a’i Ffrindiau, sy’n cael ei gynnal fel rhan o weithgareddau Gŵyl Golwg yn Llanbed ddydd Sadwrn.
Mae cyfle cyntaf i blant sy’n dod i’r digwyddiad roi tro ar weithgareddau amrywiol ‘Llyfr Mawr Sali Mali’, a bydd llyfrau digidol newydd Alun yr Arth yn cael ei lansio yn yr ŵyl hefyd.
Mae si ar led y bydd Sali ac Alun yn ymweld â Neuadd Ysgol Bro Pedr yn bersonol fore Sadwrn i ymuno â’r hwyl!
Llyfr newydd i Sali Mali
Ers degawdau, mae Sali Mali wedi bod yn un o gymeriadau plant mwyaf hoffus Cymru.
Mae cyfrol newydd Llyfr Mawr Sali Mali yn cael ei chyhoeddi gan Wasg Gomer ac mae’n llawn o weithgareddau amrywiol i blant bach gan gynnwys posau a lluniau i’w lliwio am Sali a’i ffrindiau.
Emma Pelling yw’r arlunydd sy’n gyfrifol am waith celf y gyfrol a Rhian Mair Evans yw’r golygydd.
Dydd Sadwrn yn Llanbed fydd y cyfle cyntaf i blant roi tro ar y gweithgareddau newydd sydd yn y gyfrol, a bydd cyfle hefyd i blant addurno bisgedi yng Nghaffi Sali Mali.
Mae Alun yr Arth yn un o gymeriadau cyfoes mwyaf poblogaidd, gyda gwasg Y Lolfa’n cyhoeddi nifer o anturiaethau’r arth bach drygionus dros y blynyddoedd diwethaf.
Bydd Gŵyl Golwg yn nodi agor penod newydd yn hanes Alun yr Arth gyda lansiad swyddogol llyfrau digidol y cymeriad sydd ar gael i’w prynu ar ddyfeisiadau amrywiol.
Bydd awdur ac arlunydd straeon Alun yr Arth, Morgan Tomos, yn yr ŵyl i gyflwyno’r straeon ar eu newydd wedd, a hefyd yn cynnal sesiynau gyda’r plant i greu straeon newydd ar gyfer y cymeriad.
Yn ogystal â gweithgareddau Sali Mali ac Alun yr Arth, bydd cymeriadau cyfres y rhaglen deledu Wenfro yn yr ŵyl, ac wrth gwrs Wcw ei hun a rhai o gymeriadau eraill cylchgrawn Wcw a’i Ffrindiau.
Yn ogystal â hyn oll, mae cyfres o rasus rhedeg i blant yn cael eu trefnu gan Ganolfan Hamdden Llanbed am 10:00 fore Sadwrn gyda ras 400m i blant 4-6 oed, 800m i blant 7-10 oed a 1600m i blant 11+.
Mae gweithgareddau diwrnod Hwyl Gydag Wcw a’i Ffrindiau yn dechrau yn Neuadd Ysgol Bro Pedr am 10:00 hefyd ac yn parhau nes 14:00.
Mae manylion llawn y digwyddiad ar wefan Gŵyl Golwg.