Merched lleol yn taclo Mynyddoedd Rhodope, Bwlgaria

gan Elen Page
Tîm Cymru
Tîm Cymru

Mae dwy ferch leol wedi llwyddo unwaith eto i gynrychioli Cymru mewn cystadleuaeth Rhedeg Mynydd. Mae Ffion Quan a Caitlin Page yn gyd-ddisgyblion yn Ysgol Bro Pedr a chyd-aelodau o Glwb Rhedeg Sarn Helen ac fe wnaeth y ddwy athletwraig deithio ar y cyd i Fwlgaria ym mis Mehefin gyda Thîm Cymru i gystadlu yn erbyn pobl ifanc o bedwar ban byd.

Roedd y daith wedi cychwyn gyda’r Junior UK &Welsh Running Championships 2015 fel rhan o Ras y Barcud, Pontarfynach ym mis Mai. Rhedodd lawer o bobl ifanc lleol ac o bell, cystadlu er mwyn treialu i ennill lle yn y Tîm ar gyfer y gystadleuaeth ym Mwlgaria. Enillodd Heidi Davies y ras merched o dan 17, gyda Mollie Davies yn ail, Caitlin Page yn drydydd a Ffion Quan yn pedwerydd. O ganlyniad fe gafodd Mollie, Caitlin a Ffion y fraint o gael eu dewis i redeg dros Gymru ym Mwlgaria.

Llwybr caregog
Llwybr caregog

Wnaeth y Timoedd Merched a Bechgyn o dan 17 hedfan o Faes Awyr Luton a chyrhaeddodd Smolyan ar ddydd Gwener, 26.6. Er mwyn paratoi ar gyfer y gystadleuaeth wnaeth y timoedd cerdded y cwrs. Mae Smolyan yn ffinio’r ardal sgïo Bwlgaria ac felly roedd y tirlun yn fynyddog iawn. Roedd y cwrs ar gyfer ras y merched yn 3.6km o hyd ac roedd angen dringo 212m, trwy goedwig ar hyd ffyrdd cul a charegog.

Roedd bore’r ras yn heulog ac roedd yr amodau’n berffaith. Roedd y merched yn frwd i ddechrau ac ar ôl  gorymdaith bant a nhw! Ar ôl

Ffion a Caitlin
Ffion a Caitlin

rhedeg lan y mynydd ar hyd y cwrs cul a pheryglus am lai na 25 munud roedd pawb wedi cwblhau’r ras heb niwed! Y tîm o Dwrci roedd yn fuddugol ac fe ddaeth Mollie mewn yn 40, Caitlin 44  a Ffion 45. Ras caled, ond werth yr ymdrech!

Ar ôl y ras cafodd y bobl ifanc cyfle i ddathlu ar y cyd yng nghanol y dre a wnaeth y maer llongyfarch pawb ar eu hymdrechion ar y mynydd. Roedd dawnswyr traddodiadol wedi perfformio ac roedd cyfle i’r rhedwyr ymuno! Braf roedd i weld y bobl ifanc cystadlu, dathlu a chymdeithasu ar y cyd, heb ystyriaeth  cefndiroedd a chenedligrwydd gwahanol.

Am ragor o fanylion am y gystadleuaeth: http://smolyan2015.info/