Mae nos Lun cynta mis Rhagfyr ers sawl blwyddyn bellach wedi’i glustnodi i fod yn noson o ganu carolau Plygain yng nghapel campws Llambed o goleg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Dyw’r ardal hon ddim yn gartref naturiol a thraddodiadol i’r Plygain, ond diolch i ymdrechion rhai fel Rhiannon Ifans – sy’n aelod o staff y coleg – rydym bellach yn rhan o’r ‘traddodiad’ byw hwn sy’n gyfrwng addoliad adeg y Nadolig.
Ac mae’n dda dweud i gynifer ag 11 o wahanol gyfranwyr gyfoethogi’r oedfa â’u datganiadau – o bell ac agos, yn unawdau, deuawdau ac yn bartïon. Daeth rhai o Landeilo, Caerfyrddin, Porth Tywyn, Aberystwyth a Phenrhyn-coch, yn ogystal â chantorion lleol i ni yma yn Llambed – Parti’r Brifysgol, Twynog Davies, Kees Huysmans, a dwy chwaer fach o Lanfihangel-ar-arth.
Mae carolau Plygain ychydig yn wahanol i garolau arferol – mae ynddyn nhw gyfoeth o eiriau, ac yn aml iawn, mae ynddyn nhw linyn stori y Beibl i gyd! Dychmygwch felly, 11 o ddatganiadau yn y rhan gyntaf, 10 yn yr ail ran (ac mae’n rheol nad oes neb yn cael canu’r un gân sydd eisoes wedi’i chanu), a’r rheini’n garolau hir, i gyd yn cael eu canu’n ddigyfeiliant … mae peryg i’r Plygain ’ma swnio fel noson ofnadwy o ddiflas, undonog a ‘boring’. Ond wir ichi, doedd hi ddim!
Bu’r Parchg Ainsley Griffiths, caplan y coleg (ar gampws Caerfyrddin) yn gyfrifol am y rhannau arweiniol, a chafwyd tri emyn cynulleidfaol. Roedd y cwbwl felly yn gyfrwng bendith wrth i ni fel Cymry Cymraeg ddod at ein gilydd i roi mawl i Iesu.
Dyma i chi flas o’r canu – dyma’r dynion i gyd a gymerodd ran yn cyd-ganu Carol y Swper.
Yn dilyn yr addoliad, cawsom wydred o win cynnes a thamed i’w fwyta – jyst y peth i gloi noson hyfryd.