Roedd cynhrychiolaeth gref o glwb rhedeg Sarn Helen yn cystadlu yn Ras Gŵyl Dewi flynyddol Llanddewi Brefi ddydd Sul.
Gethin Holland o Glwb Athletau Aberystwyth oedd yn fuddugol yn y ras 10k, gan orffen mewn amser o 0:35:09.
Roedd Owain Schiavone, sy’n ddi-glwb, yn ail mewn amser o 0:38:18, a Mark Finlayson o glwb Les Croupiers yn drydydd mewn 0:39:10.
Michael Davies (0:39:55) oedd yn arwain y gad i Sarn Helen, gan orffen yn bumed ac yn ail yn y categori i ddynion dros 40 oed, gydag Andrew Davies (0:40:45) yn chweched, Kevin Davies (0:41:02) yn seithfed a Sion Price (0:41:59) yn wythfed.
Enid Gruffudd o Aberystwyth oedd y gyntaf o’r merched i orffen mewn amser o 0:44:44 gyda Sian Roberts-Jones (0:45:34) o Sarn Helen yn ail.
Canlyniadau rhedwyr eraill Sarn Helen
20 – Dorian Rees (0:47:45)
21 – Eleri Rivers (0:47:42)
25 – Jolly Dee (0:50:12)
27 – Michell Readwin (0:51:07)
40 – Helen Willoughby (1:08:03)
Canlyniadau llawn i’w gweld yma