Ddydd Sul, 26 Gorffennaf, aeth llond bws bach o eglwysi Bedyddwyr gogledd Teifi ar daith – aelodau o Noddfa (Llanbedr Pont Steffan), Bethel (Silian), Caersalem (Parcyrhos), Aberduar (Llanybydder), Seion (Cwrtnewydd) a Brynhafod (Gorsgoch).
Jill Tomos, ein gweinidog, a wnaeth y rhelyw o’r trefniadau, a thrysorydd y cylch, Dewi Davies, Aberduar, oedd yn gyfrifol am y swper ar ddiwedd y daith. Diolch i’r ddau am eu gwaith, fel arfer.
Aethom o Lanbed am Reilffordd y Gwili. Dyma atyniad trên stêm yn Bronwydd Arms, ac i nifer o’r aelodau, roedd hyn fel cam yn ôl mewn amser. Mae Rob Phillips, aelod yn Noddfa Llambed, yn wirfoddolwr ac yn un o gyfarwyddwyr Rheilffordd y Gwili, a chawsom sgwrs fer ganddo am hanes y Gwili. Os oedd y trên stêm yn dipyn o ‘hit’, roedd y trên bach hyd yn oed yn fwy o demtasiwn i rai o’r aelodau – ac nid plant yn unig a aeth arni!
O’r Gwili, aethom trwy gefn gwlad sir Gaerfyrddin i’r Gangell ger Blaen-y-coed. Dyma fan geni’r emynydd a’r bardd-bregethwr Elfed. Yno i’n cyfarfod roedd Elsbeth Page, gwraig ddiwylliedig sydd wedi’i thrwytho yn hanes Elfed ac yn ei hanes lleol. Diolch iddi am gyflwyno i ni beth o hanes Elfed ac am y cyfle i ni grwydro’r bwthyn un-llawr. Oddi yno, fe gawsom ni ein tywys i gapel Blaen-y-coed, a chael rhagor o hanes Elfed gan Elsbeth. Yno hefyd cawsom fyfyrdod byr gan Jill, a chyfraniadau gan ein haelodau.
Doedd y tywydd ddim yn garedig, ond yn rhagluniaethol, roedd hi’n sych pan aeth y bws â ni i Genarth am saib bach cyn swper, ac roedd hi’n braf cael crwydro’r pentref a gweld y rhaeadrau. Ac yn naturiol, roedden ni’n edrych mlaen am swper ymhen dim, a chawsom ein digoni yn nhafarn Ffostrasol.