Teifi 10 – Clwb Rhedeg Sarn Helen

gan Sian Roberts-Jones

Ras Teifi 10

rhedeg1

Ar brynhawn Sul y Pasg heulog, Ebrill y 5ed, daeth torf o 125 o redwyr i redeg ras Teifi 10, a’r oedran yn amrywio o ddeunaw i 82 mlwydd oed.  Dechreuodd y ras ger y Clwb Rygbi yn Llambed cyn mynd o amgylch y dre ac yna allan am Lanfair, cyn dod yn ôl drwy Cellan a gorffen unwaith eto yn y clwb rygbi.  Enillydd y ras eleni a’r categori dynion agored oedd Carwyn Jones, yn wreiddiol o Dregaron ond erbyn hyn yn aelod o glwb Caerdydd, mewn amser o 55.37 ac yn ennill y ras merched a’r categori merched  agored oedd ei gariad, Carys Mai Hughes o glwb Les Croupiers, mewn 66.34, yr ail ferch agored oedd Janet Holmes 68.56 a’r 3ydd merch oedd Caryl Davies, Sarn Helen 71.43. Yr ail ferch i orffen y ras a’r cyntaf yn y categori merched 35 oedd Claire Cleathero o Trots mewn amser o 68.47, yn ail oedd Charmaine Wood 69.48 ac yn 3ydd oedd Angel Champion  72.09.  Enillydd y categori merched 45 oedd y rhedwraig rhyngwladol Dawn Kenwright o glwb Sarn Helen mewn 73.29,  yn ail oedd Julie  Scholey 75.54 ac yn 3ydd Anita Worthing 76.59.  Yn ail yng nghategori y dynion agored oedd Dylan Lewis, Sarn Helen, 57:49, 3ydd Gary Wyn Davies, Aberystwyth 58.03. Yn gyntaf yn y dynion 40 oedd Matthew Hurford,  57.50, 2il oedd Jamies Biggs 60:48, 3ydd Chris Fulcher 62.02.  Yr ail rhedwr i orffen y ras ac yn gyntaf yn y dynion 50 oedd Martin Rees o Les Croupiers ac fe dorrodd record y byd ar gyfer rhedeg 10 milltir i ddyn 62 blwydd oed mewn amser o 55.54 felly llongyfarchiadau mawr iddo. Ail dynion 50 oedd Peter Osborne, 62:26 ac yn 3ydd oedd David Thomas, Sarn Helen mewn 66.56.

rhedeg2

Cafwyd diwrnod pleserus gan bawb – yn gefnogwyr ac yn rhedwyr, yn enwedig wrth iddynt groesi’r llinell derfyn a derbyn wy Pasg bach fel gwobr!  Canlyniadau eraill rhedwyr clwb Sarn Helen i ddechrau gyda’r merched oedd: Sian Roberts-Jones 74:05 Katie Mcdermott 76:03 Dee Jolly 79:15 Eleri Rivers 81:04 Fiona Jones 86.26 Gwenan Hodgson 86:34 Carys Davies 87.09 Heather Hughes 89:01 Emma Gray 113:29. Yna gyda’r dynion fel hyn oedd hi: Carwyn Davies 61:06 Michael Davies 62:29 Llewelyn Lloyd 63:28 Simon Hall 64:09 Gethin Jones 65:11 Steven Holmes 65.24 Glyn Price 65:50 Kevin Regan 66:11 Andrew Abbott 66:33 David Thomas 66:56 Carwyn Thomas 67:33 Richard Marks 67:38 Sion Price 67:39 Andrew Davis 68:05 Nigel Davies 69:21 Tony Hall 71:15 Murray Kisbee 71:55 Kevin Hughes 74:05 Paul Edwards 75:01 Terry Wyn Jones 76:04 Eric Rees 80:29 Dorian Rees 86:11 Gareth Jones 103:04.teifi10