Tîm Swyddogion Newydd Ysgol Bro Pedr

Gethin Morgan
gan Gethin Morgan
Luned a Gareth y Prif Swyddogion.  Llun a dynnwyd gan Tim Jones yn Eisteddfod yr Ysgol eleni.
Luned a Gareth y Prif Swyddogion. Llun a dynnwyd gan Tim Jones yn Eisteddfod yr Ysgol eleni.

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, mae tîm newydd o Swyddogion Ysgol Bro Pedr wedi cael ei apwyntio.  Ar ôl pendroni am amser hir ymysg y panel apwyntio, dewiswyd Gareth Wyn Jones fel prif fachgen a Luned Jones fel prif ferch, a’u dirprwyon; Tomos Rhys Jones, Huw Howells, Ceri Davies a Meinir Davies. Mae’r tîm swyddogion yn cyfrannu’n helaeth at fywyd yr ysgol gan gynyrchioli’r ysgol mewn sawl digwyddiad yn ogystal â gwneud dyletswyddau wythnosol yn fewnol.

Luned Jones y Brif Ferch newydd.  Llun gan Nia Wyn Jones.
Luned Jones y Brif Ferch newydd. Llun gan Nia Wyn Jones.

Mae Gareth, y prif fachgen, yn aelod gweithgar iawn o’r ysgol ac yn byw yn Llambed.  Mae’n ymddiddori mewn sawl chwaraeon ac yn ymwneud â gweithgareddau’r Sgowtiaid. Mae Luned yn ferch ffarm weithgar iawn ac wedi’i magu ar fferm Blaenwaun-ganol, yn ardal Llanwnnen.  Dros y blynyddoedd mae wedi cyfrannu’n helaeth at fywyd yr ysgol trwy ei gwaith gyda’r Eisteddfod ac yng ngweithgareddau’r Clwb Cymraeg.

Gareth Wyn Jones y Prif Fachgen newydd. Llun: Tim Jones.
Gareth Wyn Jones y Prif Fachgen newydd. Llun: Tim Jones.

Bachgen o Gwmann yw Tomos Rhys Jones ac yn dipyn o chwaraewr rygbi.  Mae cyfraniad Huw tuag at adroddiad papur newydd y BBC wedi bod yn sylweddol iawn ym Mro Pedr.  Mae’n ymddiddori ym myd Mathemateg a Ffiseg.

Mae Ceri o ardal Ffarmers ac yn hoff o farchogaeth ceffylau ac yn ei hamser hamdden mae hi hefyd yn hoff o drin geiriau.  Enillodd y goron yn Eisteddfod yr Ysgol eleni.  Merch o ardal Cwmsychbant yw Meinir wedi ei magu yng Nghaerwennog ac mae’n feistres ar ganu’r piano. Yn aelod brwd o CFfI Llanwennog, hi gyfansoddodd y gân bop ar gyfer Eisteddfod y mudiad llynedd.

Pob hwyl i’r 6 ohonynt yn eu rôl fel Prif Swyddogion.