Yn dilyn seremoniau Eisteddfod Rhys Thomas James, Pantyfedwen, Llanbedr Pont Steffan ddydd Sadwrn (sef y gwobrau dan 25 a’r Goron), cynhaliwyd dwy seremoni arall yn yr Eisteddfod ddydd Llun – y Fedal Ryddiaith a’r Gadair.
Un sy’n gyfarwydd i ni gyd yn ardal Llanbed enillodd y Fedal Ryddiaith – Karen Owen. Merch o Benygroes, Dyffryn Nantlle, yw Karen, ac mae wedi dychwelyd i’w pentref genedigol, ond bu am flynyddoedd yn byw yn nhre Llanbed ac yn gweithio yn Golwg.
Roedd Mererid Hopwood yn llawn canmoliaeth i Karen, ‘Crafwr’, a ysgrifennodd ddwy ymson ar y thema ‘Crafu/Crafiadau’. Darllenwyd detholiad o’i gwaith gan Gillian Jones, a chanwyd cân i’w chyfarch gan Barti Gernant, sef Verina, Rhian, Cyril a Twynog.
Bachgen lleol 21 oed enillodd y Gadair yn yr Eisteddfod – Endaf Griffiths o Gwrtnewydd (newydd symud o Ddyffyn Cothi). Englyn yr un i saith bardd neu awdur oedd gofynion y gystadleuaeth, a chanolbwyntiodd Endaf ar feirdd o dde Ceredigion. Roedd Mererid Hopwood yn hael ei chanmoliaeth eto i ‘Llew’ (ffugenw Endaf).
Cyfarchwyd Endaf gan un sydd wedi bod yn ddylanwad arno, y ffermwr John Rhys Evans, enillydd y Gadair y llynedd. Canwyd cân y cadeirio gan Geraint Rees, Llandyfaelog, ffrind mawr i’r Eisteddfod.