Roedd yr haul yn tywynnu ar ddydd Gwener yr wythfed o Orffennaf, pan agorwyd adeilad newydd Ysgol Gynradd Carreg Hirfaen yng Nghwmann yn swyddogol, a hynny o dan arweiniad y prifathro Aled Jones-Evans.
Costiodd yr adeilad £5.7 miliwn. Cyllidwyd y gwaith ar y cyd gan Gyngor Sir Gâr a Llywodraeth Cymru drwy ei menter Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.
Mae’n adeilad modern sydd â’r cyfleusterau diweddaraf, gan gynnwys maes chwarae 3G sydd ar gael ar gyfer y disgyblion ynghyd â’r gymuned leol. Saif yr ysgol y drws nesaf i Ganolfan Pentref Cwmann, gan olygu ei bod yng nghalon y gymuned – yn ddaearyddol ac yn ddiwylliannol.
Ddydd Gwener roedd Neuadd Coedmor dan ei sang o swyddogion y cyngor; plant a staff yr ysgol; llywodraethwyr; cyn athrawon, prifathrawon a disgyblion yr ysgol; aelodau o bwyllgorau, sefydliadau a busnesau’r gymuned a phawb yn mwynhau swn y delyn a’r ffliwt gan Georgina Cornock-Evans a Mali Fflur Jones, cyn iddynt gael eu croesawu’n swyddogol gan ddisgyblion bl 6, Iestyn Plant, Sion Aled Evans, Seren James a Mali Fflur Jones.
Cafwyd anerchiadau gan Arweinydd y Cyngor, y cynghorydd Emlyn Dole; aelod o’r bwrdd gweithredol, y cynghorydd Gareth Jones ac efe gyflwynodd yr allweddi’n swyddogol i law y disgyblion; Cwmni Andrew Scott; Cadeirydd y Llywodraethwyr Dyfed Evans, ac fe wnaeth y Parchedig Jill Tomos fendithio’r ysgol.
Mwynhawyd eitemau cerddorol gan blant y cyfnod sylfaen, cyfnod allweddol 2 ac aelodau o gampws hŷn Bro Pedr gydag ensemble a ddaeth yn ail yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Roedd bwrlwm a mwynhad y plant yn ategu at y naws hyfryd a chyffrous oedd yn bodoli yn y neuadd.
Yna aethpwyd allan ger y prif fynedfa er mwyn dadorchuddio’r plac lle cafwyd cyflwyniadau byr gan y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant, Rob Sully a Gareth Morgans, Prif Swyddog Addysg a chyn bennaeth Ysgol Coedmor. Yna clywid “Hwre” fawr wrth i’r Cynghorydd Eirwyn Williams, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg dynnu’r llenni a dadorchuddio’r plac ac fe wnaeth holl blant yr ysgol ymuno a’i gilydd i ganu “Joio yn ein ysgol ni!”.
Darparwyd lluniaeth arbennig gan Delyth Pantri a phawb yn mwynhau paned, cacen a chlonc i gloi agoriad swyddogol llwyddiannus iawn.
Crëwyd Ysgol Carreg Hirfaen yn 2000 pan gafodd y tair ysgol flaenorol yn yr ardal – Ysgol Ffarmers, Ysgol Llan-y-crwys ac Ysgol Coedmor – eu ffedereiddio. Dywedodd Aled Jones Evans, sef Pennaeth yr ysgol: “Mae’n fyd hollol wahanol inni oll, ac mae’r plant, y rhieni a’r staff wrth eu boddau â’u hysgol newydd.