Carnifal Cwmann 2016

gan Sian Roberts-Jones
Y Frenhines a'i Gosgordd
Y Frenhines a’i Gosgordd

Ar brynhawn Sadwrn heulog yr 28ain o Fai, cynhaliwyd Carnifal blynyddol pentref Cwmann a hynny ar gae’r pentref.

Er gwaethaf bygythiadau’r tywydd fe wenodd yr heulwen wrth i’r frenhines a’i gosgordd gael eu harwain i’r cae gan Eric Williams a’i gerddoriaeth bywiog, a Brigad Dân Llambed, a thyrfa groesawgar yn eu disgwyl ar y cae.

Y frenhines eleni oedd Chloe Lewis, y morynion oedd Gwenllian Llwyd a Lilly-May, y macwyaid oedd Osian Jones a Jac Jones a brenhines y rhosod oedd Annie Thomas. Roedd pob un ohonynt yn edrych yn brydferth iawn a chafwyd araith hyfryd iawn gan Chloe.

Y fflôt buddugol
Y fflôt buddugol

Beirniaid y carnifal oedd Nerys Douch & Rhodri Beaumont a Tristan & Jennie Nash, ac nid oedd eu tasg yn un rhwydd wrth i nifer o blant ac oedolion fynd i ymdrech fawr gyda’u gwisgoedd.

Cafwyd 3 float yn cystadlu eleni o dan y thema Chwaraeon a phob un yn dilyn trywydd gwahanol. Aeth y wobr gyntaf a £100 i’r Gemau Olympaidd, £75 a’r 2il wobr yn mynd i’r Euro 2016, a’r 3ydd a £50 i Sports Direct.

Enillwyr y Carnifal
Enillwyr y Carnifal

Enillwyr y carnifal oedd: Cylch Meithrin 1af: Esther Llwyd, 2il: Aron Russell, 3ydd: Ifan Jones. Dosbarth Derbyn 1af: Deina Harrhy, 2il: Elin Dafydd, 3ydd: Cai Davies.  Bl 1&2 1af: Megan Dafydd, 2il: Tudur Llwyd, 3ydd: Ellie Gregson & Megan Morris.  Bl 3&4 1af: Ronnie Evans, 2il: Casi Gregson, 3ydd Jaymie Evans. Bl 5&6 1af: Sion Harrhy. Pâr gorau 1af: Casi & Ellie Gregson, 2il: Esther Llwyd & Cai Wyn, 3ydd: Megan Morris & Ava Gregson.  Fe aeth y Best Entry i Ronnie Evans fel robot, ac fe gipiodd Nia Wyn Williams y cymeriad gorau yn nosbarth yr oedolion. Llongyfarchiadau i bawb am eu hymdrech.

Y Mabolgampau
Y Mabolgampau

Yn ogystal â’r mabolgampau, roedd nifer o atyniadau, gweithgareddau a stondinau amrywiol i gynnal diddordeb pawb yn ystod y prynhawn.  Bu nifer o blant yn mwynhau cymeryd rhan mewn sgiliau syrcas, ennill gwobrau ar y stondin hwpla, cystadlu mewn gweithgaredd bêl-droed a rygbi, cael hwyl ar y castell bownsio a’r Dual Gladiator a bwyta llond eu bol gyda darpariaeth y W.I. a byrgers a hufen iâ Pantri PantyDderwen.

Roedd hi’n ddiwrnod llwyddiannus eleni eto ac hoffai’r pwyllgor ddiolch i bawb a gyfrannodd at lwyddiant y dydd (rhy niferus i’w henwi), i’r rhai a gyfrannodd wobr at y raffl fawr, ac yn enwedig i’n noddwyr: Pwyllgor Cymuned Pencarreg, Douglas Brothers, W. D. Lewis a’i Fab, a Robert’s Garden Centre. Bydd elw’r dydd yn mynd tuag at adnewyddu’r parc chwarae ar gae’r pentref.