Roedd Cneifio Llambed yn dathlu ugain mlynedd eleni. mae’r gystadleuaeth wedi mynd o nerth i nerth, ac wedi datblygu’n rhyfeddol.
Cynhaliwyd y gystadleuaeth ar y 16eg o Orffennaf ar Fferm Capeli, Cribyn, drwy garedigrwydd y brodyr Williams.
Dechreuwyd ar y cystadlu am 8yb, gyda rhagbrofion y dosbarth Iau a’r dosbarth Canol, yna cafwyd blas ar rowndiau gyn-derfynol y ddau ddosbarth hyn. Wedyn cafwyd rhagborfion i’r Cneifio Gwellau, yna’r rhagbrofion ar gyfer y ddau ddosbarth olaf sef y dosbarth Uwch a’r dosbarth Agored, a rowndiau cyn-derfynol ar gyfer y ddau ddosbarth.
Roedd hi nawr yn amser ar gyfer y Prawf Rhyngwladol rhwng Cymru a Ffrainc, ffeinal y dosbarth Iau a Canol, cyn cael Prawf Rhyngwladol arall rhwng Cymru a Seland Newydd – dyma yw uchafbwynt y diwrnod i rai. Ac yna gorffen y diwrnod gyda’r ddau ffeinal mawr i’r dosbarth Uwch ac Agored – uchafbwynt y diwrnod i eraill.
Roedd dros £2,700 o wobrau ariannol ac amryw dlysau i’w hennill ar ôl yr holl cystadlu, dyma oedd y canlyniadau:
Dosbarth Iau:
1af- Sam Powell
2il- Aled Evans
3ydd- Ieuan Morris
4ydd-Llion Harries
5ed- Gethin Thomas
6ed- Maredudd Pyrs
Dosbarth Canol:
1af- Phil Grove
2il- Josh Page
3ydd- Steffan Jenkins
4ydd- Johnny Rees
5ed- Lorena Dumon
6ed- Eleonore Resneau
Dosbarth Uwch:
1af- Lloyd Rees
2il- Loic Joberthie
3ydd- Nick Greaves
4ydd- Elgan Jones
5ed- Dylan Jones
6ed- Ilan Rhys Jones
Dosbarth Agored:
1af- Johnny Kirkpatrick
2il- Mathew Evans
3ydd- Gwion Evans
4ydd- Gareth Daniel
5ed- Richard Jones
6ed- Ian Jones
Cneifio Gwellau:
1af- Elfed Jackson
2il- Rheinallt Hughes
3ydd- Gareth Owen
4ydd- George Mudge
5ed- Andrew Wear
6ed- Loic Jauberthie
Prawf Cymru a Ffrainc:
1af- Cymru
2il- Ffrainc
Prawf Cymru a Seland Newydd:
1af- Cymru
2il- Seland Newydd
Os ydych am fwy o wybodaeth am y gystadleuaeth neu am weld fwy o luniau edrychwch ar dudalen Facebook y Cneifio sef: