Dai Dolau a’i galon yn y lle iawn

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Dai Dolau
Dai Dolau

Dai Dolaugwyrddion, Llanbed yw Cymeriad Bro Papur Bro Clonc y mis hwn.

“Dyma fachan â’i galon yn y lle iawn a’i draed yn sownd ar ddaear Dyffryn Teifi” meddai Elaine Davies yn ei chyflwyniad i bortread Dai Williams yng ngholofn ‘Cymeriadau Bro’.

Mae ei deulu wedi byw ar lannau’r Teifi ym Mhentrebach ers tua 1850.  Etifeddodd Dai ei ddiddordeb mewn peiriannau a cherbydau gan ei dad-cu.  Cawn ambell stori ganddo am gerbydau, ei ddyddiau ysgol ac yn y Coleg Amaethyddol, y dyddiau pan oedd yn godro yn Nolaugwyrddion, ffermio organig ac arallgyfeirio.

Mae’n berson cymwynasgar iawn â chysylltiad cryf â phwyllgor Sioe Llanbed, y Cylch Trafod Amaeth yn Llanbed, Pwyllgor Lles Llanwnnen a Chapel Undodaidd Alltyblaca.

Mae’n wyneb cyfarwydd i fwyafrif yr ardal hon, ond darllennwch ‘Cymeriadau Bro’ y mis hwn er mwyn darganfod mwy am y gŵr bonheddig hwn.