Alun ac Eifion Willimas, Crown Stores yw testun colofn ‘Cymeriadau Bro’ Papur Bro Clonc y mis hwn.
Dyma ddau frawd sydd wedi bod yn rhedeg cwmni J H Williams a’i feibion yn y Stryd Fawr, Llanbed ers y chwedegau. Maent yn wynebau cyfarwydd i siopwyr Llanbed ac wedi cyfrannu’n economaidd tuag at lewyrch y dref.
Cyflogwyd hyd at ugain o staff ganddynt ar un adeg tra’r oedd pedair siop yn Llanbed ac un yng Nghaerfyrddin.
Gallwch ddarllen y golofn yn llawn gen i yn rhifyn mis Mai Papur Bro Clonc, ond dyma flas i chi:
“Dau gymeriad siaradus a chwrtais bob amser sydd wedi llwyddo i gynnig gwasanaeth personol i’w cwsmeriaid dros y degawdau. Dau Gymro glân, diwylliannol ac egwyddorol hefyd sydd wastad yn barod i gefnogi achosion lleol.”
Dim ond y siop fwyd yn Llanbed sydd ar agor erbyn hyn. Mae’r siop lestri yng Nghaerfyrddin a Llanbed wedi cau ynghyd â’r siop nwyddau’r cartref a’r siop baent a phapurau wal yn Llanbed. Mae Alun ac Eifion wedi cyrraedd oedran ymddeol a’r siop fwyd yn debygol o gau hefyd yn hwyrach eleni.
Sonnir yn y golofn “Mae’n mynd i fod yn olygfa ryfedd yn y Stryd Fawr heb gwmni J H Williams a’i Feibion. Dyma hoelen arall yn arch yr iaith Gymraeg yn y dref medd rhai, a siop arall yn llai i dynnu cwsmeriaid i’r dref yn wirionedd anodd ei lyncu i eraill.”
Mynnwch gopi o Bapur Bro Clonc er mwyn darllen y golofn yn ei chyfanrwydd a mwynhau hanes y ddau gymeriad bro unigryw hyn.