Ar brynhawn Sadwrn 9fed Orffennaf cynhaliwyd diwrnod hwyl Llanllwni a drefnwyd ar y cyd rhwng yr Ysgol, Cylch Meithrin a’r Clwb Ffermwyr Ifanc. Braf oedd cael trefnu gweithgaredd gymunedol a chydweithio gyda gwahanol bobol o’r mudiadau, ac ar ddiwedd y dydd gwnaed elw o £1429.81. Bydd y swm yn cael ei rannu rhwng y 3 sefydliad.
Oherwydd y tywydd gwlyb drwy caredigrwydd Mr a Mrs Eric Jones cafodd y diwrnod hwyl ei gynnal yn sied ar fferm Tirlan. Llywydd y dydd oedd Mr a Mrs Artie Evans, Llanybydder a chafwyd amser wrth eu boddau yn beirniadu y gystadleuaeth gwisg fansi. Dyma rhai lluniau o’r gystadleuaeth:
Cafwyd cwpan am y plentyn / person â’r gwisg ffansi gorau o fewn pob categori, ac yn dod i’r brig oedd Osian Powell. Diolch yn fawr i Mr a Mrs Kevin Jones am noddi’r cwpan hwn. Dyma lun o Osian:
Roedd y diwrnod yn un llwyddiannus a hoffai pwyllgor Cymdeithas Rhieni ac Athrawon yr Ysgol, Pwyllgor y Cylch Meithrin a’r Clwb Ffermwyr Ifanc ddiolch i bawb a gyfrannodd mewn unrhyw ffordd at lwyddiant y dydd mewn unrhyw ffordd.. A diolch i’r Cyngor Bro am noddi gwobrau’r gwisg fansi, mabolgampau a It’s a Knock Out.