Etholiad llwyddiannus i ardal Llanbed

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Elin Jones, Jonathan Edwards, Dafydd Llywelyn ac Adam Price.  Llun: @PlaidCeredigion
Elin Jones, Jonathan Edwards, Dafydd Llywelyn ac Adam Price. Llun: @PlaidCeredigion

Cynhaliwyd Etholiad y Cynulliad ac Etholiad Comisiynydd yr Heddlu ddydd Iau diwethaf a braf yw dathlu cysylltiad yr ardal hon â nifer o’r ymgeiswyr llwyddiannus.

Mae ardal Papur Bro Clonc mewn dwy etholaeth, felly gallwn adrodd ar ganlyniadau Ceredigion a Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, yn ogystal ag ardal Heddlu Dyfed Powys.

Llongyfarchiadau i Elin Jones ar ran Plaid Cymru am gael ei hethol fel Aelod Cynulliad dros Geredigion am y pumed tro.  Merch Tynllyn, Llanwnnen yw Elin yn wreiddiol.  Yn gyn ddisgybl Ysgol Llanwnnen ac Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan.  Bu’n aelod o’r grŵp poblogaidd Cwlwm hefyd, ond yn Aelod Cynulliad profiadol iawn erbyn hyn ac yn gyn Weinidog Amaeth Cymru.

Ceredigion:

Felix Franc Elfed Aubel (Ceidwadwyr) – 2075

Elizabeth Evans (Democratiaid Rhyddfrydol) – 9606

Gethin James (UKIP) – 2665

Elin Jones (Plaid Cymru) – 12,014

Iwan Wyn Jones (Llafur) – 1902

Brian Dafydd Williams (Y Blaid Werdd) – 1223

2408 – mwyafrif / 56% wedi bwrw pleidlais

Ymgeisydd Plaid Cymru, Dafydd Llywelyn yw Comisiynydd newydd Heddlu Dyfed-Powys.  Fe drechodd y Comisiynydd blaenorol Christopher Salmon (Ceidwadwyr).

Un o Landysul yw Dafydd Llywelyn ac yn ddarlithydd troseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.  Mae’n ŵyr i’r diweddar Daniel Davies oedd yn arfer rhedeg siop dillad dynion adnabyddus yn y Stryd Fawr Llanbed.

Y rownd gyntaf

Dafydd Llywelyn 52,469 (28%)

Christopher Salmon 47,093 (25.1%)

Kevin Madge 34,799 (18.6%)

Des Parkinson 20,870 (11.1%)

Richard Church 20,725 (11.1%)

Edmund Davies 11,561 (6.2%)

Yr ail rownd

Dafydd Llywelyn 22,689

Christopher Salmon 12,209

Aelod Cynulliad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yw Adam Price Plaid Cymru.  Yn gyn Aelod Seneddol yr etholaeth, mae e’n dilyn Rhodri Glyn Thomas yn y swydd.

Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr

Freya Rachel Amsbury (Y Blaid Werdd) – 797

Mostyn Neil Hamilton (UKIP) – 3474

Steve Jeacock (Llafur) – 5727

Matthew Graham Paul (Ceidwadwyr) – 4489

William Denston Powell (Democratiaid Rhyddfrydol) – 837

Adam Price (Plaid Cymru) – 14,427

8700 – mwyafrif / 54% wedi bwrw pleidlais

Elin Jones a Dai Lloyd yn y Cynulliad.  Llun: @ElinCeredigion
Elin Jones a Dai Lloyd yn y Cynulliad. Llun: @ElinCeredigion

Ymhlith yr ymgeiswyr a lwyddodd ar Restr Ranbarthol Gorllewin De Cymru oedd Dai Lloyd Plaid Cymru. Mae e wedi bod yn Aelod Cynulliad ers 1999 hefyd.  Mae ei wreiddiau e yn yr ardal hon yn ogystal.  Mab fferm Esgair Inglis Llanybydder yw e a chyn ddisgybl yn Ysgol Llanwnnen ac Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan, fel Elin Jones.

Diolch i wefan Golwg360 am y canlyniadau.  Dilynwch y ddolen i’r dudalen ar gyfer yr holl ganlyniadau.