Mae hen adeilad Ysgol y Dolau, Llanybydder ar werth am amcan bris o £950,000. Caiff ei werthu mewn arwerthiant yn Llundain ddydd Iau nesaf, y 14eg o Ebrill.
Oes diddordeb gan unrhyw un lleol ei brynu a’i ddatblygu? Agorwyd Ysgol y Dolau yn adeilad mawreddog hen Blas y Dolau yn 1956. Ysgol breswyl a ariannwyd gan y dair sir oedd hon ar gyfer disgyblion ag angenion dysgu arbennig. Ychwanegwyd adeiladau pwrpasol i’r hen blasdy yn ystod y pumdegau a bu’n ysgol lwyddiannus a chartrefol iawn yn ei dydd. Ceuwyd drysau’r ysgol yn y nawdegau gyda newidiadau ym mholisi addysg.
Gwerthir yr eiddo sy’n cynnwys 46 ystafell wely mewn safle o 27 erw hardd ar lannau’r afon Teifi gan gwmni Auction House, Llundain. Mae’n gyfuniad o’r adeilad traddodiadol ac adeiladau addysgol mwy newydd gan gynnwys neuadd fawr a chegin. Mae cae pêl-droed yno ac ystafelloedd newid. Rhoddir cyfle i ddarpar brynwyr ymweld â’r lle am y tro olaf ddydd Mawrth 12fed Ebrill rhwng 11 a 12 o’r gloch.
Bu Eifion Davies, cyn gadeirydd Clonc yn gweithio yno am bron deng mlynedd ar hugain fel athro a dirprwy brifathro. Mae ganddo atgofion melys o’r lle. “Roedd y plant yn gymeriadau” meddai Eifion, “a’r ysgol yn le hapus iawn. Weithiau pan fyddai plant yn gadael yr ysgol ac yn dychwelyd adref, byddai ambell un yn rhedeg bant o gartref er mwyn dychwelyd i’r ysgol.”
“Mae’n adeilad mawr a oedd yn cynnwys pwll nofio y pryd hwnnw. Yn yr hen adeilad roedd ‘Organ loft’ a tho gwydr iddo achos roedd Cyrnal yr hen blas yn organydd talentog. Mae yna hanes ei fod unwaith wedi saethu ffesant a hwnnw wedi torri’r to gwydr wrth ddymchwel o’r awyr.”
Plant Ysgol y Dolau oedd yn gyfrifol am blygu Papur Bro Clonc o ddyddiau ei sefydlu yn 1982 tan i’r ysgol gau. Eifion oedd yn gyfrifol am drefnu hyn yn y Neuadd, a Del James yn dod â’r tudalennau unigol yno o’r argraffwyr cyn mynd â nhw ar ddiwedd y prynhawn wedi eu gosod mewn trefn i’r siopau. “Roedd gofyn cadw llygad barcud ar bob un wrth ei waith, ac fe gostiodd hyn sawl baryn o siocled i fi hefyd amser ’ny” meddai.
Wedi dyddiau’r ysgol, defnyddiwyd y lle fel Coleg Islamaidd o 1998 ymlaen. Adroddwyd bod llofrydd y Ffiwsilwr Lee Rigby, sef Michael Adebowale, wedi mynychu’r lle yn 2012. Yn dilyn ymchwiliad gan MI5 daethpwyd i’r canlyniad ’nad oedd yn lle eithafol’.
Felly beth ddaw o hen Ysgol y Dolau? Mae’r cyfleusterau addysgu sydd yno yn fwy na’r ysgol newydd a godir yn Nrefach ar hyn o bryd ar gyfer Ysgol Dyffryn Cledlyn. Cred rhai y byddai wedi costio llai i leoli’r ysgol fro newydd hon yn Ysgol y Dolau.
Beth am westy moethus neu bentref gwyliau? Amser a ddengys. Un peth sy’n sicr, byddai’n braf gweld yr adeilad hardd yn cael ei atgyweirio i’w lawn ogoniant a gweld defnydd iddo unwaith eto.