Lansio dyddiadur etholiadol Mike Parker

Delyth Morgans Phillips
gan Delyth Morgans Phillips

Os nad oedd neb yng Ngheredigion wedi clywed am Mike Parker cyn 2015, go brin y gallai unrhyw un fod wedi osgoi ei enw ar sticeri ceir, ar bosteri mewn ffenestri tai, ar blacards mewn cloddiau, ac (yn ddadleuol a phoenus) ar dudalen flaen un papur newydd lleol yn ystod gwanwyn y llynedd. Yn ogystal â bod yn awdur poblogaidd ac yn ddarlledwr, Mike Parker oedd un o ymgeiswyr etholiad San Steffan ar gyfer Ceredigion.

greasy pollErbyn hyn, mae Mike wedi ysgrifennu cyfrol Saesneg sy’n ddyddiadur o’i ymgyrch etholiad.

Nos Fawrth, 7 Mehefin, cynhaliwyd cyfarfod yn y Llew Du, Llanbedr Pont Steffan, i ddathlu cyhoeddi ‘The Greasy Poll – Diary of a Controversial Election‘ (Y Lolfa, £9.99). Cafwyd cyfarfod hwyliog ac anffurfiol, gyda Mike yn darllen rhannau o’r gyfrol, ac yna sesiwn holi ac ateb dan ofal Dylan Iorwerth, Llanwnnen, sy’n feistr ar gyfweld.

Aeth awr a hanner yn glou iawn, a gallem fod wedi gwrando rhagor ar Mike yn adrodd perlau, ac ar Dylan ac yntau’n sgwrsio’n naturiol am wleidyddiaeth ac am bethe mawr ein byd amryliw. Mae gan Mike bersonoliaeth gynnes, stôr o hiwmor, a’r ddawn i ennill calon rhywun. Ac fel mewnfudwr o Loegr, mae’n esiampl o ddyn sydd wedi setlo yng nghanolbarth Cymru, dysgu’r iaith, parchu etifeddiaeth a threftadaeth ei wlad mabwysiedig nes ei fod yn wirioneddol eisiau gweithio drosti.

Mike Parker a Dylan Iorwerth
Mike Parker a Dylan Iorwerth

Dyw’r gyfrol The Greasy Poll ddim yn dal dim yn ôl – ceir yma ddarlun gonest a chlir o’r hyn a brofodd, a welodd ac deimlodd ar y daith i geisio ennill brwydr etholiadol yn y sir ryfedd a rhyfeddol hon.