Llwyddiant Lleol yn Rasys Harnais Llanbedr Pont Steffan.

gan Carys Mair Jones
Hendre Bob
Hendre Bob

Wedi i fwrlwm Rasys Tregaron ar benwythnos Gŵyl y Banc dawelu, cafwyd diwrnod llwyddiannus arall o rasys o dan ofal pwyllgor rasys Llanbedr Pont Steffan ar ddydd Sul y 4ydd o Fedi ar gaeau Pentre, Llanfair Clydogau drwy ganiatâd Mr a Mrs Arwyn Davies.

Gwnaeth y trac trawiadol ar lannau’r afon Teifi llwyfannu rhaglen un ar ddeg ras ar dir dirlawn. Mae’r ceffyl lleol ‘Hendre Bob’ o dan hyfforddiant y gyrrwr, Alan Jones sydd yn enedigol o Lambed, wedi cael tymor gwych ac aeth i Lanbedr Pont Steffan mewn calon dda, ar ôl ennill ras Ystrad Fflur yn Nhregaron pythefnos ynghynt.

Wedi iddo gael ei yrru yn berffaith gan Alan Jones, aeth y ceffyl chwe blwydd oed, mab y ‘Cammissioner’ ymlaen i ennill ras Trafnidiaeth Brian Thomas a’r ffeinal a noddir gan Siop Pysgod a Sglodion Lloyds, Llanbedr Pont Steffan.

Dywedodd Alan Jones bod y ceffyl wedi gwaredu ei broblemau gan deimlo fod mwy gydag e i roi yn y flwyddyn sydd i ddod.

Enillwyr y ffeinal.
Enillwyr y ffeinal.

Cafodd Michael O’Mahoney llwyddiant triphlyg wrth i ‘In The Ayr’ ennill ras 2, ‘Ontop McArdle’ ennill ras 3 a ‘Meldoon’ ennill ras 7. Gwelodd y cymal cyntaf y ffeinal’ In The Ayr’ yn rhedeg ochr fewnol y trac gyda ‘Masquerade Avenue’ gyda Cholin Bevan yn rhedeg yn llydan ar yr ochr fas yn chwilio am well dir. Roedd yr enillydd yn un arall a ddaeth i Lambed ar drothwy llawenydd Tregaron.

Yn yr ail gymal o lwyddiant triphlyg O’Mahoney gwelwyd ‘Ontop McArdle’ yn curo ‘Dizzy Miss Lizzy’ gan hyd mewn 2.22.9. Daeth llwyddiant rhif tri wrth i ‘Meldoon’ curo ‘Shark Penlan’ ac Alan Jones i’r brig gan wddf. Gwnaeth Huw Thomas ennill dwbl gyda buddugoliaethau y tu ôl i ‘Star in the making’ yn y ras 5 a ‘Blackfield Bird’ yn ras 9.

Cymerodd Ffynnon, ceffyl lleol arall y ras a noddir gan Keith Thomas am y trydydd tro gan ysbail bendant o saith hyd yn nwylo Jamie Davies. Daliodd Dulais Daniel ei dir yn erbyn Wellfield Picaso i gymryd ras 8 gan bedwar hyd ar gyfer gyrrwr Gary O’Grady bellach o Brengwyn.

Roedd gair terfynol y dydd ar gyfer Wilbro Maverick, ceffyl 12 mlwydd oed, oedd yn ymddeol wedi iddo orffen yn bedwerydd yn ei ras gyda gyrfa o naw buddugoliaeth ar gyfer Llywydd Rasys Llambed Wyndham Jones (Cribyn).

I gloi, llongyfarchiadau i’r tîm; Wyndham Jones, Cled Jones, Keith Thomas, Kayleigh Evans, Gwenan Thomas, Alan Brown a Ceirwyn Evans am ddiwrnod hollol lwyddiannus.