Cafodd dau fachgen ifanc lleol ddiwrnod bythgofiadwy wrth iddynt deithio i Arsenal i chwarae dros garfan dan 7 Abertawe yn ddiweddar.
Mae Hari Jones o Ysgol Carreg Hirfaen a Dion Deacon Jones o Ysgol Bro Pedr wedi bod yn rhan o’r garfan ers blwyddyn bellach ac yn teithio i Abertawe ddwy waith yr wythnos i dderbyn hyfforddiant.
Dechreuodd yr antur am 6.30 y bore wrth i’r ddau deithio i gwrdd a gweddill y tîm yn Abertawe am 7.30. Nid oedd hawl gan y ddau i deithio gyda’u rhieni ac roedd yn rhaid iddyn nhw deithio ar fws gyda gweddill y tîm a’r hyfforddwyr.
Roedd yn siwrne hir i Lundain ond roedd y bechgyn wedi mwynhau mas draw ar y bws, yn gwylio DVD a bwyta pecyn. Cyrhaeddodd y bws am 1, gyda’r bechgyn yn mynd yn syth i’r ystafelloedd newid i wisgo eu gwisg Abertawe.
Mae’n peth enfawr i mi fel rhiant i wylio fy mhlentyn, sydd ond wedi troi yn 7 oed yn gorfod bod mor annibynnol. Doedd dim hawl mynd i roi cwtsh iddyn nhw a dweud wrthynt fydd pob dim yn iawn.
Dechreuodd y gêmau am 1.30 a chwarae 6 gêm yn olynnol heb lawer o egwyl. Mae’n anhygoel i weld faint o dalent sydd gan y bechgyn yma a’r ddau ond yn 7 oed.
Chwaraeodd Hari a Dion yn wych, yn erbyn carfan gref Arsenal. Collwyd 3 gêm, ennill 1 a 3 gêm gyfartal. Roedd yn amser i newid nôl a mynd nôl ar y bws i gwrdd â’u rhieni yn ôl yn Abertawe.
Diwrnod hir iawn ond un bythgofiadwy i Hari a Dion. Taith i Chelsea sydd nesaf. Diolch i Paul Jones, tad Hari am hyfforddi’r dau.