Pennaeth Ysgol Bro Pedr yn frwd, yn gynnes ac yn llawn egni

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Jane Wyn

Jane Wyn

Jane Wyn
Jane Wyn

Byddai pawb sy’n adnabod Jane Wyn, Pennaeth Ysgol Bro Pedr yn gwybod hyn yn barod.  Disgrifa Elaine Davies hi fel person brwd, cynnes a llawn egni yn ei cholofn ‘Cymeriadau Bro’ y mis hwn ym mhapur Bro Clonc.

Ond efallai nad yw holl ddarllenwyr Papur Bro Clonc yn gyfarwydd â hi.  Wedi cyfnod yn gweithio i’r cyfryngau bu’n athrawes Saesneg uchel ei pharch yn Ysgol y Preseli.  Wedi symud i weithio i Lanbed, cofodd gyfleoedd  niferus.  Llwyddodd i gyflawni gwaith Pennaeth y Chweched a chafodd ei dyrchafu’n Bennaeth Cynorthwyol.

Un o Ddyffryn Aman yw Jane yn wreiddiol, ac yn ei cholofn, sonia Elaine am ddylanwad ardal y glo caled a’i chartref yng Nglanaman.

Cafodd Jame secondiad i fod yn Bennaeth Ysgol Tregaron cyn dychwelyd yn bennaeth ar ei hysgol bresennol yma yn Llanbed.

Mynnwch gopi o rifyn Gorffennaf papur bro Clonc i ddarllen mwy amdani.