Pobl ifanc lleol yn codi arian ar gyfer taith Patagonia

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Twm a Manon @YsgolBroPedr
Twm a Manon @YsgolBroPedr

Mae pedwar o ferched a bechgyn Ceredigion wedi cael eu dewis i fod yn rhan o grŵp o 25 o bobl ifanc Cymru fydd yn teithio filoedd o filltiroedd ar daith fythgofiadwy i Batagonia fis Hydref 2017, fel rhan o 10fed taith Urdd Gobaith Cymru i’r Wladfa.

Llongyfarchiadau mawr i Manon Lois Williams o Bencarreg a Twm Ebbsworth o Lanwnnen, y ddau yn ddisgyblion yn Ysgol Bro Pedr; Mared Fflur Davies o Ysgol Aberaeron, ac Alwen Morris o Ysgol Penweddig ar gael eu dewis!

Bydd y bobl ifanc sydd oll rhwng 16 a 18 oed yn dilyn ôl traed oddeutu 200 o ieuenctid eraill sydd wedi cael y profiad o fynd ar daith i’r Wladfa gyda’r Urdd ers 2008.

Cost y daith yw £2,400 y person, ac mae’r gwaith caled o godi arian wedi dechrau yn barod. Bydd Manon, Twm, Mared ac Alwen yn chwilio am nawdd ac yn cynnal llu o weithgareddau dros y misoedd nesaf.

Tra ym Mhatagonia bydd y grŵp yn treulio pythefnos yn dilyn rhaglen o weithgareddau arbennig sydd wedi eu trefnu o flaen llaw. Yn y gorffennol mae’r gweithgareddau wedi cynnwys ymweld â grwpiau henoed, ysgolion a cholegau, blasu Asado, cynnal cyngherddau, cymanfa ganu a noson lawen yn osgystal a chystadlu yn Eisteddfod Chubut.

Medd Lois Hedd, Swyddog Datblygu Dinbych ac un o arweinyddion y daith i Batagonia yn 2017, “Cawsom lu o geisiadau gwych o Gymru ben baladr unwaith eto eleni, a cawsom amser caled yn dewis y 25 lwcus. Mae’r her i hel yr holl arian sydd ei angen i fynd ar y daith bellach wedi dechrau, ac rydw i’n edrych ymlaen at weld creadigrwydd y bobl ifanc wrth iddynt fynd ati.

Yn gorffennol maent wedi llwyddo i godi arian drwy nifer fawr o ddullilau, gan gynnwys cael nawdd gan gwmniau lleol, trefnu teithiau cerdded, nosweithiau cyri a chwis, cyngherddau mawreddog, sioeau ffasiwn a hyd yn oed cynnig gwersi clocsio!”

Aeth Sioned Hughes, Prif Weithredwr yr Urdd ymlaen i ddweud, “Mae’r Urdd yn falch iawn o’r holl brofiadau yr ydym yn eu cynnig i bobl ifanc Cymru eleni, o Eisteddfodau i wersylloedd, o gystadlaethau chwaraeon i dripiau tramor bythgofiadwy.

Mae’r daith Hydref hon i Batagonia yn uchafbwynt gweithgareddau rhyngwladol blynyddol yr Urdd, a dyma ni’n dathlu y ddegfed daith yn 2017. Llongyfarchiadau mawr i bawb sydd wedi cael eu dewis eleni, a phob lwc gyda gwaith caled o gasglu arian nawdd dros y misoedd i ddod!”

Fideo Morgan Lewis, Ysgol Bro Pedr o Daith yr Urdd i Batagonia 2016.