Pobol yr Ymylon yn Llambed

Delyth Morgans Phillips
gan Delyth Morgans Phillips

Dwi ddim erioed wedi bod yn un am fynychu’r theatr i wylio dramâu. A dweud y gwir, rydw i ofn mynd i wylio dramâu byth ers i fi gael row yn yr ysgol nes o’n i’n tasgu; roeddwn i, a chriw bach o ffrindiau, wedi ‘difetha’ perfformiad gan theatr deithiol wrth i chwerthin fynd yn drech na ni. Rwy’ hefyd yn cofio sylw wnaed pan o’n i yn fy arddegau – taw fy chwerthiniad i a mam-gu oedd fwya amlwg i’w glywed yn y gynulleidfa mewn rhyw berfformiad yn Theatr Felinfach. Wps! Mae’n amlwg felly taw comedi yw’r unig beth sy’n saff i fi ei wylio.

Y digrifwr Idwal Jones
Y digrifwr Idwal Jones

Ond pan glywais i fod drama Idwal Jones, Pobol yr Ymylon, yn dod nôl i Lambed yr wythnos ddiwetha’, ro’n i’n sicr am gefnogi. Roeddwn i’n gwybod fod Idwal Jones yn ffond iawn o gomedi, felly roedd gobaith y byddai yn y ddrama hon rywfaint o ysgafnder. Roedd gwybod bod Ifan Gruffydd yn actio hefyd yn gliw y byddai elfen ddoniol yn perthyn iddi. Ches i mo fy siomi.

Dyma ddrama wych. A dwi ddim yn dweud hynny’n ysgafn ac yn ystrydebol. Roedd sgript Idwal Jones yn ddealladwy ac yn naturiol. Roedd yr actio gan aelodau Theatr Gydweithredol Troedyrhiw yn gredadwy ac yn plesio. Doedd y ddrama ddim yn rhy hir; fe fennodd hi’n ei blas. Doedd ’na ddim byd gor-gymhleth amdani, dim gormod o gymeriadau i ni gofio amdanyn nhw, dim is-blot a chyfeiriadaeth a

Y gynulleifa yn Festri Shiloh
Y gynulleifa yn Festri Shiloh

chymariaethau i flino’n meddyliau. Ond nid drama ysgafn, arwynebol mohoni chwaith – mae iddi ddyfnder sy’n profi y tu hwnt i amser. Mae’n ymwneud â gwraidd ein bodolaeth ni: ein delwedd, ein rhagrith, ein parchusrwydd, ein ffydd a’n crefydd, ein ymwneud ag eraill, ein cymdeithas.

Meddai Lyn Ebenezer yn Y Cymro wrth adolygu gwaith Theatr Gydweithredol Troedyrhiw yn llwyfannu Pobol yr Ymylon: ‘Nid rhyw lwyfaniadau avant garde ffug-ddiwylliannol arti-ffarti, nid rhyw gyfieithiadau Seisnigaidd eu hanfod. Nid rhyw ddramâu cymhleth sy’n denu rhyw lond dwrn i’w gwylio. Na, eu harlwy bob amser yw llwyfaniadau sy’n denu’r bobl gyffredin, yn cynnwys pobl yr ymylon.’  Amen, ddweda’ inne.