Rali CFfI Sir Gâr 2016

gan Cffillanllwni

Ar y 14eg o Fai roedd Rali Cffi Sir Gâr ar safle’r sioe yn Nant-y-ci, ac ar ôl hir baratoi yn ystod yr wythnosau diwethaf, bu aelodau’r clwb yn cystadlu’n frwd ac yn mwynhau’r profiad. Roedd rhai yn cystadlu am y tro cyntaf a rhai yn cystadlu am y tro olaf! Daeth cyfanswm o 5 cwpan yn ôl i’r clwb ar ddiwedd y diwrnod o gystadlu. Yn ogystal, daeth tarian yr 2il safle yn yr adran hyn yn  ol i Llanllwni am yr ail flwyddyn yn olynol. Llongyfarchiadau enfawr i bawb a wnaeth gystadlu i sicrhau llwyddiant ysgubol i’r clwb eleni eto. Diolch hefyd i bawb sydd wedi cynorthwyo’r aelodau ym mhob cystadleuaeth i sicrhau llwyddiant.

Dyma restr o ganlyniadau’r dydd:
Gwaith coed hŷn 1af – Carwyn Lewis ac Arwel Jones 3ydd – Sion Evans a Dan Joynson
Creu ‘Time Capsule’ 1af – Hefin Jones
Crefft – Creu 5 eitem i ginio ddathlu 1af – Meryl Davies, Siriol a Ceris Howells
Coginio Hŷn 1af – Ceiros Lewis a Jac Jones
‘It’s a Knockout’ 1af – Meryl Davies, Ifor Jones, Sion Evans a Zac Addison
Gosod Blodau 2il – Nerys Thomas
‘Generation Game’ 2il – Sara Thomas a Luned Jones
Barnu Stoc – Defaid Lleyn 2il – Owain Davies ac Alwyn Evans
Treialon Cwn Defaid 2il – Ifor a Betsan Jones

Meryl, Sion, Ifor a Zac
Meryl, Sion, Ifor a Zac
Betsan ac Ifor
Betsan ac Ifor
Sion a Dan
Sion a Dan
Siriol, Ceris a Meryl
Siriol, Ceris a Meryl
Jac a Ceiros
Jac a Ceiros
Nerys
Nerys
Sara a Luned
Sara a Luned
Arwel a Carwyn
Arwel a Carwyn
Hefin Jones
Hefin Jones