Ras Fynydd Sarn Helen 2016

gan Sian Roberts-Jones
Y plant yn dechrau rhedeg
Y plant yn dechrau rhedeg

Roedd yr awyr yn glir a’r tywydd yn ffafriol iawn ar gyfer Ras fynydd Sarn Helen eleni ar Fai 15fed. Dyma ras eiconic i Lambed sydd yn dechrau a gorffen yn y clwb rygbi gan fynd ar hyd hen lwybrau rhufeinig Sarn Helen ac yn cynnwys 3 dringfa serth yn ystod y cwrs 16 milltir.

Roedd 48 o redwyr dewr yn barod am yr her a Slavov Gancho, Aberystwyth AC yn dechrau’r ras yn gryf ac yn arwain y ffordd hyd at y llinell derfyn gan orffen mewn 1.54 ac ef hefyd oedd enillydd categori y dynion dros 40.

Roedd hi’n frwydr agos iawn ar gyfer yr 2il a’r 3ydd yng nghategori y dynion 40 rhwng aelodau Sarn Helen gydag eiliad yn unig yn gwahanu’r ddau, ond Daniel Hooper aeth â’r 2il safle mewn 2.02.31 a Glyn Price yn 3ydd mewn 2.02.32.

Enillydd categori y dynion agored oedd Ken Caulkett, Sarn Helen a oedd hefyd yn 2il yn y ras mewn 1.54.40 gydag aelod arall o’r clwb, Simon Hall yn gorffen yn 3ydd yn y ras ac yn 2il i ddynion agored mewn 1.58.41.

Dave Powell, Aberystwyth AC oedd yn fuddugol yng nghategori y dynion 50 mewn 2.08.14 gyda Rob Falconer, Harriers Abertawe yn 2il mewn 2.13.44 a Tony Hall,  Sarn Helen yn 3ydd mewn 2.16.10.

Claire Cleathero, TROTs o gategori’r merched 35 oedd enillydd ras y merched eleni gydag amser o 2.15.35, a dyma oedd y tro cyntaf iddi redeg y ras hon. Roedd yr ail ferch dros y llinell derfyn mewn 2.23.15, hithe hefyd o gategori merched 35 sef Louise Barker, sydd wedi rhedeg y ras hon droeon. Llinos Jones, Amman Valley Harriers oedd yn  3ydd i ferched dros 35 mewn 2.27.43.  Dee Jolly oedd y 3ydd ferch I groesi’r llinell derfyn ac yn ennill categori y merched agored yn ei amser gorau o 2.24.51.  Yn 2il yn yr un categori oedd Tasmin Leighton, Aberystwyth AC mewn 2.27.26 gyda’r 3ydd yn mynd i Jana Weidemann, Myddfai Milers mewn 2.58.41.

Enillydd categori y merched dros 45 oedd  Kate O’Sullivan, Aberystwyth AC mewn 2.39.45, 2il yn mynd i Wendy Tromans, Rhedwyr Emlyn mewn 2.51.20 a’r 3ydd hefyd i Rhedwyr Emlyn, Heulwen James mewn 2.54.06.

Cafwyd perfformiadau arbennig o aelodau eraill Sarn Helen gyda’r canlyniadau fel a ganlyn:  Andrew Davis 2.10.09, Steven Holmes 2.10.51, Kevin Hughes 2.12.59, Murray Kisbee 2.18.00, Calvin Williams 2.22.13, Mick Taylor 2.24.59, Carwyn Thomas 2.26.08, Richard Marks 2.26.55, Eleri Rivers 2.28.17, Terry Jones 2.35.30, Huw Price 2.35.37, Sian Roberts-Jones 2.36.03, Aneurin James 2.36.37, Heather Hughes 2.57.22, Eric a Carol Rees 3.29.12 a Nicola Higgs 3.29.20.

Cynhaliwyd y ras gyfnewid unwaith eto eleni gyda 4 tîm yn cystadlu. Pob tîm yn cynnwys 3 rhedwr sy’n gorfod rhedeg tua 5.5 milltir yr un.  Enillwyr y ras gyfnewid eleni oedd Steven Holmes, Thomas Willoughby a Paul Edwards gydag amser o 2.10.49. Roedd ras y plant cynradd ac uwchradd yn 1.7 milltir ac yn bennaf ar hyd lwybrau coedwig a chaeau.

Yn y ras uwchradd, yr enillydd oedd Tomos Morgans, y Preseli mewn amser arbennig o 11.58, gyda Gwion Payne, Sarn Helen yn 2il mewn 12.20 a Daniel Willoughby, Sarn Helen yn 3ydd mewn 13.02. Sioned Wallwork, Caerdydd AC aeth â hi i’r merched mewn 13.22, yr ail i Grace Page, Sarn Helen mewn 14.41 a 3ydd i Isabella Caulkett, Sarn Helen mewn 16.14.

Yn y ras cynradd Daniel Morgans oedd yn fuddugol mewn 12.29, gyda Liam Regan yn 2il mewn 12.59 a Rhodri Gregson, Sarn Helen yn 3ydd mewn 13.21. Alaw Jones o Cwrtnewydd enillodd ras y merched arol rhedeg ras anhygoel a gorffen mewn 12.40, gyda Gwenllian Llwyd, Sarn Helen yn 2il mewn 14.50 a Caryl Haf Lloyd, Harriers Caerfyrddin yn 3ydd mewn 14.53.

Canlyniadau eraill aelodau’r clwb:  Jack Caulkett 13.02, Joseff Thomas 13.18, Rhys-Tom Williams 13.42, Dafydd Lloyd 13.44, Jamie Jones 14.01, Harry Rivers 14.50, Leah Regan 15.25, Beca Jones 16.12, Sean Wood 16.15, Owen Davies 16.57, Violet Caulkett 17.08, Nia Williams 17.58, Gwen Thomas 18.12, Llyr Rees 18.16, Maddie Caulkett 23.11.