Cynhaliodd C.FF.I. Llanllwni Sioe a Threialon lwyddianus dros ben ddydd Llun Gŵyl y Banc. Fe dywynnodd yr haul drwy gydol y dydd, gan ddenu llu o gystadleuwyr a chefnogwyr o bell ag agos i ymuno â ni. Llywyddion y dydd oedd Mr a Mrs Bowen Jones, Parc y Blodau, New Inn.
Dyma restr o enillwyr y dydd.
Treialon cŵn Defaid:
Open National – E L Morgan gyda Jaff
Open South Wales – A Lyttle gyda Scott
Novice South Wales – Irwel Evans gyda Gem
Sioe Defaid:
Defaid Ucheldir: Jones Highview
Defaid Iseldir: Jones Blaenblodau
Pencampwyr Defaid: Jones, Blaenblodau
Cynnwys y Babell:
Coginio – Moira Jones, Felingelli
Blodau – Janet Jones, Dwylan
Llysiau – Eric Jones, Dwylan
Cyffeithiau a gwinoedd – Janet Jones, Dwylan
Cynnyrch Fferm – Ken Howells, Gwarallt
Ffotograffiaeth – Osian Powell,
Adran Plant ysgol –
Dan 2 ac iau – Tudur George, Haulfryn
Blwyddyn 3-6 – Alaw Jones, Blaenwaun
Blwyddyn 7-13 – Nerys Jones, Pengrug.
I orffen y diwrnod cawsom Sioe Gwartheg lwyddianus ar ffurf fideo yn nhafarn y Talardd, gydag ocsiwn i ddilyn. Enillwyr adranau’r gwartheg am eleni oedd:
Gwartheg Bîff – Teulu Blaenwaun
Gwartheg godro – Teulu Gwarcwm
Pencampwyr gwartheg – Teulu Gwarcwm.
Hoffem fel clwb ddiolch o waelod calon i bawb a wnaeth ein cynorthwyo cyn, yn ystod, ac yn dilyn y sioe i sicrhau sioe lewyrchus i C.Ff. I. Llanllwni. Nid yw’r costau i gyd wedi dod i fewn eto ond bydd yn sicr siec o dros £2,000 yn mynd i’n elusen am eleni, sef Ambiwlans Awyr Cymru. Cewch wybod y swm terfynnol maes o law. Diolch.