Mae tri myfyriwr blwyddyn 12 o Ysgol Bro Pedr wedi cael eu dewis i gynrychioli Urdd Gobaith Cymru ar daith i Batagonia eleni.
Mae’r tri – Morgan Lewis o Gwmann, Nest Jenkins o Ledrod a Cadi Jones o Ffair Rhos – yn brysur iawn yn codi arian tuag at y daith ar hyn o bryd.
Bu Nest a Cadi yn canu carolau yn ardal Tregaron cyn y Nadolig a chynhaliodd Morgan noson ym mwyty Shapla Llanbed yn ddiweddar gyda chymorth ei dad-cu. Mae’r tri yn ddiolchgar iawn i bawb am eu cefnogaeth.
Yn ystod eu cyfnod ym Mhatagonia byddant yn gwneud pob math o waith gwirfoddol, gan gynnwys gwneud sesiynau gyda phlant a phobl ifanc sy’n dysgu Cymraeg, ymweld â thrigolion y Wladfa o dras Cymraeg, gweithio mewn ysgolion i blant difreintiedig a phlant gydag anghenion arbennig, cynorthwyo gyda phrosiectau cymunedol ac yn cynrychioli Cymru yn Eisteddfod Y Wladfa.
Bu myfyrwyr o’r ardal hon yn ddigon ffodus i fynd ar deithiau tebyg yn y gorffennol. Efallai i chi gofio darllen am hanes Siân Elin o Bencarreg a Guto Gwilym o Gwmann ym Mhapur Bro Clonc. Byddai’r ddau yn gallu tystio eu bod wedi cael profiadau bythgofiadwy.
Cynhelir taith eleni ym mis Hydref, ond rhaid i’r tri godi cyfanswm o £2,400 yr un cyn hynny. Bwriedir cynnal Sioe Ffasiynau yn Ysgol Bro Pedr ar y 24ain Mawrth gyda dillad o Lan Lofft a W D Lewis a’i fab. Trefnir cyngerdd mawreddog yn Theatr Felinfach hefyd ar y 17eg Mehefin. Yr artistiaid i’w cadarnhau eto.
Cynhelir gweithgareddau yn yr ysgol hefyd fel diwrnod i’r disgyblion yn eu dillad eu hunain a bore coffi i’r cyhoedd yn neuadd yr ysgol. Mae’r tri yn gwerthfawrogi cefnogaeth yr ysgol gyda digwyddiadau fel hyn.
Dewiswyd 24 aelod o’r Urdd o Gymru benbaladr i fynd ar y daith ym mis Hydref a thri yn unig o Geredigion. Mae’n dipyn o beth felly bod y tri yn fyfyrwyr yn Ysgol Bro Pedr, gyda Cadi a Nest yn gyn ddisgyblion o Ysgol Henry Richard.
Yn ystod eisteddfodau cylch a rhanbarth Ceredigion ymhen rhai wythnosau, bydd Cadi, Nest a Morgan yn gwerthu raffl er mwyn codi arian tuag at y daith. Mae trefniadau ar y gweill i gynnal taith feicio noddedig o Wersyll yr Urdd Glan-llyn i Langrannog ynghyd â raffl fawr i’w thynnu yn y gyngerdd.
Os ydych yn perthyn i gymdeithas neu gwmni a fyddai’n dymuno noddi neu gyfrannu gwobr raffl, byddai unrhyw un o’r tri yn hynod o falch clywed oddi wrthych.