Trychineb morwrol mwyaf gwledydd Prydain

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
http://www.britisharmedforces.org/pages/nat_alfred_lockyer.htm
http://www.britisharmedforces.org/pages/nat_alfred_lockyer.htm

Mae pawb wedi clywed am drychineb llong y Titanic, y Lusitania, ac o bosibl Yr Empress of India, ond ydych chi wedi clywed am y ‘Lancastria’?

I Yvonne Davies o Drefach, Llanybydder, doedd hi ddim wedi clywed am hyn tan ddwy flynedd yn ôl, a dim ond drwy hap a damwain oedd hynny.

“Pori drwy safle’r we ar gofgolofnau’r Rhyfel Mawr oeddwn i” meddai Yvonne “a throi at Gofgolofn Cwmann, lle cofir fy Wncwl Myrddin – er mae yn yr Ail Ryfel Byd y collodd ei fywyd. Wrth ddarllen y paragraff amdano, meddyliais fod y ffeithiau’n anghywir. Roedd yn aelod o’r Awyrlu, ac roeddem fel teulu wedi cael ar ddeall erioed fod ei awyren wedi ei saethu i lawr ar yr 17eg o fis Mehefin 1940.

Enw Myrddin ar gofgolofn Cwmann.
Enw Myrddin ar gofgolofn Cwmann.

‘Killed in action’ oedd ar y neges a ddanfonwyd adre. Codwyd ei gorff o’r môr ar ochr Orllewinol Ffrainc, ac mae wedi ei gladdu yn Vendee.

Yn ôl y wybodaeth ar y we, roedd ef ymhlith miloedd yn cael eu cludo o Orllewin Ffrainc ychydig yn fuan wedi Dunkirk. Roedd llong y Lancastria wedi ei hanfon ar frys o Lerpwl i’r perwyl hwn; llong i gario 2,200 o bobl, ond rhoddwyd gorchymyn i roi gymaint â phosib arni.

Credir bod tua 9,000 wedi esgyn i’r llong, a’u gwthio i bob twll a chornel ohoni. Cyn iddi adael porthladd St. Nazaire, fe’i bwriwyd gan dri bom o un o awyrennau’r Almaen, ac fe suddodd ymhen 20 munud. Boddwyd mwy o bobl ar hon nag y Titanic, y Lusitania a’r Empress of India gyda’i gilydd.

Roedd y newydd am y trychineb hwn yn arswyd i glustiau Churchill, a gorchmynnodd i gadw’n dawel am yr holl beth – ac mae yn dal o dan yr Official Secrets Act hyd at 2040.

Achubwyd tua 2,500 o’r bobl, ond daeth y diwedd i’r miloedd eraill. Mae’r hanes yn un arswydus, ac yn cael ei adnabod fel ‘The forgotten tragedy’. Os am ddarllen pellach, mae’r hanes ar-lein, dim ond i chi rhoi enw’r Lancastria i mewn.

Hoffai Yvonne ein annog ni i gyd i arwyddo deiseb. “Mae yna ddeiseb ar-lein yn ceisio cael y Llywodraeth i gydnabod fod y trychineb hwn wedi digwydd.”  Gofynna “Faint o’r teuluoedd fydd ar ôl i gofio erbyn 2040?”

Mae angen 10,000 o enwau ar y ddeiseb cyn ystyried yr achos, a 100,000 cyn y daw’n ddadl yn y Tŷ Cyffredin. A wnewch chi helpu? Mae’n rhaid gwneud cyn canol mis Ionawr drwy fynd i’r ddeiseb ar lein.