Un ohonon ni yn Llywydd y Cynulliad

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Elin Jones gyda Ben ac Elin yn ystod yr ymgyrch ddiweddar yn Llanbed.  Llun: @ElinCeredigion
Elin Jones gyda Ben ac Elin yn ystod yr ymgyrch ddiweddar yn Llanbed. Llun: @ElinCeredigion

Merch yn wreiddiol o Lanwnnen sydd wedi cael ei dewis ar gyfer swydd bwysig Llywydd y Cynulliad heddiw.

Roedd Elin Jones a’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi cael eu dewis ar gyfer y swydd ond daeth Elin i’r brig gyda 34 pleidlais, a 25 i Dafydd Elis-Thomas, gydag un aelod yn ymatal ei bleidlais.

Ddydd Iau diwethaf etholwyd Elin Jones yn Aelod Cynulliad dros Geredigion am y pumed tro, ac heddiw yn y Senedd y dangoswyd faint o barch sydd gan ei chyd aelodau tuag ati wrth iddi gamu i swydd â phroffil mor uchel.

Ysgrifennodd Twynog Davies, Pentrebach am Elin yn ei golofn ‘Cymeriadau Bro’ ym Mhapur Bro Clonc nôl yn 1998 tra’r oedd hi’n berson ifancaf i fod yn Faer tref Aberystwyth.

Dywedodd Twynog “Yn ei bywyd personol, mae’n casáu agweddau hunanol mewn pobol ond yn llawenhau bod yna fwy o gyfle cyfartal i ferched y dyddiau yma. Mae bob amser yn barod i amddiffyn egwyddorion iaith a diwylliant ond bydd yn teimlo weithiau bod hen draddodiadau yn medru rhwystro datblygiad a ffyniant yng nghefn gwlad.”

Ei dymuniad ar ddiwedd y portread hwnnw oedd y buasai wrth ei bodd yn cael y cyfle i gynrychioli Plaid Cymru yng Ngheredigion yn y Cynulliad newydd.  Wel gwireddwyd hynny sawl tro ers 1998, ac mae’r rhinweddau y disgrifiodd Twynog uchod yn sicr o ddod i’r amlwg wrth iddi ymgymryd â rôl Llywydd y Cynulliad.

Dymuniadau gorau i Elin.  Mae tîm Papur Bro Clonc yn hynod o falch o’th gyraeddiadau ac yn gwerthfawrogi dy gefnogaeth bob amser.