Adroddiad gan Elan Jones a Beca Jenkins, 8 Dewi
Yn ystod yr wythnos 11-15 Ebrill teithiodd disgyblion o ysgolion y Ffindir, Cyprus a Denmarc i Gymru fach i ymuno â ni, Ysgol Bro Pedr ac Ysgol Bro Myrddin, fel rhan o’r prosiect Erasmus+ oedd yn cynnwys wythnos gyfan o weithgareddau.
Ar ddydd Mawrth y 12fed o Ebrill, cynhaliwyd taith i’r Gerddi Botaneg i baratoi cyflwyniad grŵp yn ogystal â chreu Cod Eco rhyngwladol. Cafodd bawb eu rhannu mewn i ddau grŵp, un yn cael taith o amgylch y Gerddi a chywain gwybodaeth, a’r grŵp arall yn cael amser i baratoi’r cyflwyniadau. Gwnaeth y disgyblion ddarganfod llwyth o wybodaeth o amgylch y Gerddi a chafodd yr ymwelwyr eu rhyfeddu gan brydferthwch natur Cymru.
Ar ddydd Mercher y 13eg o Ebrill, daeth yr ymwelwyr i Ysgol Bro Pedr i gymryd rhan yng ngwersi coginio, dylunio a thechnoleg a sgiliau rygbi. Bu’r ymwelwyr yn brysur iawn drwy gydol y dydd yn cael blas o fywyd Ysgol Bro Pedr. Yn ystod gwers 1, cafodd yr ymwelwyr eu tywys o amgylch yr ysgol gan ein Prif Swyddogion. Roedd amser egwyl yn gyfle i ddisgyblion Ysgol Bro Pedr gael sgwrs gyda’r gwesteion oedd yn ymweld â’u tai y noson honno. Yna, yn ystod gwers 2 cafodd yr ymwelwyr eu diddori wrth greu ffresnydd aer, pice ar y maen a chreu ‘keyrings’. Ar ôl hynny, cafodd yr ymwelwyr hwyl yn dysgu sut i chwarae rygbi gyda Jack Rees a disgyblion y chweched. Efallai gwelwn lawer o’r ymwelwyr yn sêr rygbi mewn blynyddoedd i ddod. Erbyn hyn, roedd hi’n amser cinio a gwnaeth yr ymwelwyr lenwi eu boliau â bwyd blasus yr ysgol. Ar ôl cinio, cafodd yr ymwelwyr eu tywys o amgylch Llambed ac ymweld â phrif atyniadau’r dref.
Ar ddiwedd y dydd, roedd yn bryd i’r ymwelwyr gael eu croesawu gan ddisgyblion Bro Pedr i’w cartrefi am y noson tan 8:30y.h. Cawsant amser arbennig yn cwrdd â theuluoedd o wahanol ddiwylliannau, dysgu am fywyd bob dydd eu partneriaid a chymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau megis ffermio, dawnsio a llawer mwy. Erbyn 8:30, roedd yn amser i’r ymwelwyr ddychwelyd i’r gwesty, yn barod ar gyfer y diwrnod canlynol.
Ar fore Iau fe wnaeth y disgyblion o’r gwledydd tramor ymweld â fferm wynt. Yna cawsant eu haddysg am effeithiolrwydd melinau gwynt yng Nghymru. Hefyd fe wnaethant ddysgu sut oedd melinau gwynt yn gweithio a pha ddarnau o beirianwaith oedd eisiau i fesur y trydan.
Yna ar ôl cinio, aeth pawb i reilffordd y Gwili er mwyn cael te prynhawn. Cafodd tipyn o’r ymwelwyr a staff eu rhyfeddu gan ba mor hen oedd y trenau yng nghwm Gwili, a gwnaeth llawer ei ddisgrifio fel trên Harri Potter i Hogwarts! Roedd y te prynhawn yn flasus tu hwnt.
Ar ôl dod adre roedd hi’n amser i bawb fynd draw i’r swper ffarwel a disgo ym Mhrifysgol Llambed. Gwnaeth pawb fwynhau bwyd traddodiadol Cymreig a gan fod pawb wedi blasu pice ar y maen ddydd Mercher roedd rheiny wedi diflannu mewn chwinciad, ac roedd nifer ohonynt am gael rysáit bara brith hefyd.
Ddydd Gwener y 15fed oedd uchafbwynt y prosiect yng Nghymru. Cafodd tri disgybl o Ysgol Bro Pedr a fu yn Cyprus sef Beca Jenkins, Elan Jones a Lucy Hill eu cyfweld ar gyfer rhaglen Prynhawn Da.
Teithiodd pawb i’r siambr yn Sir Gaerfyrddin er mwyn cyflwyno eu syniadau terfynol i bawb er mwyn pleidleisio am y syniadau gorau. Yna roedd y tri gorau yn cael eu defnyddio ar gyfer creu Cod Eco rhyngwladol i wledydd y partneriaeth i gyd. Ar ôl i bawb gyflwyno eu syniadau terfynol roedd gan bawb bleidlais. Y tri syniad a ddaeth yn fuddugol oedd #GoGreen, defnyddio mwy o gynnyrch lleol yn yr ysgol a lleihau gwastraff papur. Cafodd pawb brofiad anhygoel yn y siambr yn defnyddio y meicroffonau modern ac hefyd cael siarad â Chadeirydd y siambr.
Dosbarthwyd bathodynnau i bawb i gofio am eu profiadau yng Nghymru, ac yna derbyniodd pawb a oedd ynghlwm â’r prosiect dystysgrif. Hefyd derbyniodd ein hysgolion partner anrheg o waith Aled Dafis yn rhodd.
Hon oedd ymweliad olaf y prosiect ac fe wnaeth pawb fwynhau y prosiect yn fawr, boed wrth deithio i Ddenmarc, Cyprus, y Ffindir neu Gymru. Roedd hyn yn brofiad bythgofiadwy. Diolch yn fawr i Miss Geinor Jones, Miss Nerys Douch a Miss Hedydd Jones am gydlynu’r prosiect.