Nid bob dydd y bydd llyfr newydd yn dod i law sy’n ymwneud ag adeilad a phobl y mae dyn yn gyfarwydd â nhw. Pan oeddwn yn blentyn yn Llanybydder yn y pum degau aethwn yn aml i’r ysgol Sul a gynhelid yng nghapel Rhydybont. Yno y priodwyd fy ngwraig a minnau ac yno, yn y fynwent hynafol, y gorwedd fy Nhad a Mam.
Gwnaeth Mr Stanley Evans gymwynas fawr â’r rhai ohonom y bu cysylltiad rhyngom â’r capel; a mi fydd chwilotwyr hanes mewn blynyddoedd a ddaw yn ddiolchgar iddo am ei waith caled yn mynd ar drywydd hen ddogfennau a’u casglu yn ddestlus o fewn cloriau un llyfr. Rhai blynyddoed yn ôl gelwais yn llyfrgell y Sir yng Nghaerfyrddin i weld â gawswn i rhyw gipolwg ar ychydig bach o’r hanes; ond yn ddigon cloi deallais mai gwaith i rywun mwy gwybodus a dyfal na fi y perthyn dod â’r trysor i’r wyneb.
Yn yr 16eg a’r 17eg ganrif edrychid ar grefydd a gwladwriaeth fel un, a gwae neb a fentrai feddwl yn wahanol. Peth mentus, felly, oedd i rai ymgynnull fel yr eglwysi Annibynnol. Dim ond argoeddiadau dyfnion a dewrder di-ildio i sefyll ar wahân ac i wynebu erledigaeth wrth addoli Iesu Grist yn ôl patrwm y Testament Newydd a wnai’r tro. Felly, y mae i Annibyniaeth, fel yr enwadau eraill, hanes a thraddodiad parchus.
Un peth yw ymddiddori mewn hanes mudiad nad oes â wnelo â ni ond yn anuniongyrchol fel petai; peth arall yw gofyn sut y bu hi yma, yn ein cynefin. Cytunaf â Huw Roberts yn ei ragair mai yn y bôn dim ond adeilad yw adeilad, lle cyfleus i gwrdd â’n gilydd. Nid capel Rhydybont yw’r eglwys ond y bobl sy’n ymgynnull yno ac yn addoli. Felly, priodol yw teitl y llyfr, sef Eglwys Rhydybont.
Yr oeddwn eisoes wedi darllen llyfr gwerthfawr Tudur Jones, sef Hanes Annibynwyr Cymru, ac wedi dod ar draws rhai cyfrolau eraill yn ymwneud â gwahanol agweddau o’r stori. Ond beth am Lanybydder? Pa fodd oedd y symudiadau yma yn cyffwrdd ein pentef ni; pwy oedd yr unigolion a beth oedd eu henwau? Wel dyma ichi rai atebion.
Gallaf sicrhau pwy bynnag â ddarlleno lyfr Stanley Evans y daw o hyd i mwy nag un person y bydd yn gyfarwydd ag ef: perthynas, cyfaill dyddiau ysgol, aelod o gymuned Llanybydder, ac yn y blaen. Yr oeddwn i yn cofio’r hwn a’r llall ond heb allu dyfynnu dyddiad penodol. Wel nawr dyma’r ffeithiau yn awdurdodol a chryno.
Yn Llyfrgell y Sir gwelais enw’r Parch Jonathan Jones (1745 – 1832); ond pwy arall a fu’n weinidogion yn Rhydybont? Mae’r ateb yn y llyfr hwn. Wrth nesau at ein dyddiau ni dechreuwn gael lluniau o’r capel a’r gwenidogion. Ar dudalenau 10 a 19 gwelir darlun o’r capel cyntaf. Adeiladwyd ef yn 1829, ond rhaid fod y llun wedi ei dynnu rai blynyddoed wedi hynny. Ta waeth am hynny, gwnaed cymwynas â ni gan bwy bynnag a dynnodd llun yr hen gapel cyn iddo ddiflannu; ac estynnodd Stanley Evans y gymwynas drwy gynnwys y lluniau diddorol yn ei lyfr.
Y gweinidog yr oeddwn i yn gyfarwydd ag ef yn bersonol oedd Dennis Lloyd Jones (t.31). Yr oeddwn yn 16 oed pan y sefydlwyd ef yn Rhydybont. “Bu Cymdeiths y Bobl Ifainc yn llewyrchus iawn yn ystod Gweinidogaeth Y Parch Dennis Lloyd Jones” (tt 78 ac 82). Do, ac yr wyf yn cofio llawer o’r digwyddiadau.
Mae’r ffaith fod Capel Rhydybont wedi goroesi tri chan mlynned yn syndod o ystyried yr amgylchiadau anffafriol a wynebodd dros y ganrif ddiwethaf. Rwy’n sôn am y blynyddoedd o tua 1917 tan 2017.
1. Dau ryfel byd – y byd i gyd yn ymladd! Bechgyn ifanc o’r cylch yn cael ei lladd; a’r bechgyn a ddaeth adref wedi gweld erchyllderau.
2. Ymosodiad ar y Beibl – a hynny yn amal o’r pulpud a ddaeth yn drwm o dan ddylanwad athroniaeth Hegel ac eraill.
3. Dyfodiad y teledu.
4. Ieuenctid yn ymadael fel myfyrwyr ond anaml yn dod nôl i Lanybydder wedi gorffen eu cwrs – a finnau’n un ohonynt!
5. Rock and Roll a meddylfryd y 60au.
Nid fy mwriad oedd ysgrifennu adolygiad trwyawdl o lyfr Stanley, na chwaith ailadrodd y geiriau a’r ffeithiau a geir ynddo. Prynnwch y llyfr – y mae yn werth £10 bob ceiniog.