Daeth y nodyn hwn i law oddi wrth yr arlunydd lleol Aerwen Griffiths am ddigwyddiad diddorol yn Llanfair Clydogau.
“Hoffem dynnu eich sylw at grŵp o artistiaid talentog – Grŵp Llanfair, sy’n dangos eu gwaith mewn gwahanol fannau yn ystod y flwyddyn, ond y sylw mwyaf yr ydym am gael yw am ein harddangosfa flynyddol yn neuadd y pentref yn Llanfair.
“Rydym yno am y trydedd blynedd yn olynol eleni ar Awst 3, 4, 5 a 6ed o 11 y.b.hyd 6 y.h. Byddwn ar agor hyd 8 y.h. ar y nos Wener. Croeso cynnes i bawb i ddod i’n gweld ac i gymdeithasu dros baned a chacen.”
Cofiwch fynychu’r arddangosfa a chefnog’r artistiaid lleol a gweithgar. Pwy a ŵyr, mae’n bosib y cewch ddarlun unigryw ac anrhegion gwahanol. Yn bendant, dyma ddogwyddiad arbennig i drigolion lleol ac ymwelwyr, a rhywbeth i’w wneud ar dywydd haf mor anwadal.