Ben Lake yn agor swyddfa yn Llanbed

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Ben Lake

Agor swyddfa newydd ar Heol y Bont

Mae Aelod Seneddol newydd Ceredigion wrth ei fodd yn agor swyddfa yn nhref ei fagwraeth er mwyn parhau â’i waith.

“Mae dychwelyd i Geredigion ar ôl wythnos hir yn San Steffan bob amser yn dod â gwen i’r wyneb,” meddai Ben Lake wrth iddo agor swyddfa ar Heol y Bont yn Llanbed.

“Mae cerdded i’r swyddfa yn Llanbed ar fore Gwener, a chael sgwrs a thynnu coes gyda hwn a’r llall ar hyd y ffordd yn well byth.”

Mae’r swyddfa yn adeilad CAVO (Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddolwyr Ceredigion) ac mae dau aelod o staff llawn-amser yn gweithio yno eisoes a’r Aelod Seneddol yn chwilio am drydydd aelod i ymuno â’r tîm.

‘Brwydro’ dros ddyfodol y dref

Mae Ben Lake yn dweud ei bod hi’n “fraint” i “roi rhywbeth yn ôl i’r dref a’i phobol sydd wedi chwarae rhan mor bwysig yn fy magwraeth”.

Ac mae sicrhau presenoldeb “mewn ardal wledig ynghanol y sir” yn bwysig iddo, meddai, am fod swyddfeydd yr Aelod Cynulliad lleol, Elin Jones, a Simon Thomas, yr Aelod Cynulliad Rhanbarthol, eisoes yn Aberystwyth.

Er hyn mae Llanbed yn wynebu heriau, meddai, ac mae’n derbyn bo cyfrifoldeb arno yntau ac aelodau etholedig “i frwydro dros ddyfodol y stryd fawr, busnesau lleol, banciau a’r gwasanaethau cyhoeddus”.

“Ond mae yna bethau y gallwn ni gyd eu gwneud, boed fawr neu fach, er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus i’r dref sydd mor bwysig i bob un ohonon ni.”

Swyddfa Ben Lake – CAVO, Heol y Bont

Y swyddfa

Erbyn hyn mae Carys Mai o Lannon yn Brif Swyddog Cyfathrebu a Chyswllt Cymunedol yn y swyddfa, ac Aled Hughes yn Brif Swyddog Polisi a Gwaith Achos, ac mae disgwyl y bydd Swyddog Cefnogi’r Etholaeth yn ymuno cyn hir.

“Mae croeso i unrhyw un alw heibio i’r swyddfa newydd ar Heol y Bont,” meddai Ben Lake.

“Bydd paned a sgwrs yn disgwyl amdanoch bob amser.”

Cyfeiriad – Swyddfa Ben Lake, Bryndulais, 67 Heol y Bont, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, SA48 7AB

Ffôn – 01570 940 333