Darlun newydd gan yr artist Lizzie Spikes yn cynnwys capel o Ffarmers
Mae un o gapeli’r ardal yn ymddangos ar ddarlun newydd gan artist o Geredigion – Lizzie Spikes.
Yn ddiweddar mae Lizzie Spikes sy’n byw yn Nhyn-y-graig, Ystrad Meurig wedi agor siop newydd yn Aberystwyth, sef Driftwood Designs.
Un o’i darluniau diweddaraf yw siart yn cynnwys tua 48 o wahanol gapeli ledled Cymru.
Esboniodd ei bod wedi rhyfeddu at yr amrywiol adeiladau wrth deithio o gwmpas Cymru gyda’i gwaith, ac un o’r capeli sydd wedi ennill ei le ar ei siart yw capel Saron Cwmtwrch Ffarmers gafodd ei sefydlu yn 1838.
“Mae pob un o’r capeli yn hollol wahanol, ac mae pensaernïaeth unigryw gyda nhw,” meddai’r artist.
Capeli’r wlad a’r dref
Esboniodd ei bod am ddatblygu’r prosiect ymhellach i gynnwys mwy fyth o gapeli.
“Dw i wedi sylwi fod y capeli yn y dref yn fawr ac yn grand iawn, ond mae’r capeli yn y wlad yn llai ac yn fwy plaen.”
Ymhlith y capeli eraill sydd yn y darlun mae capel Bwlchgwynt, Tregaron a Soar y Mynydd.
Mae yna gapeli o’r gogledd gan gynnwys rhai o Gaergybi, Biwmares, Bangor, Caernarfon, Rhuthun, Betws y Coed a Dolgellau. Ac yn y de mae yna gapeli o Gaerfyrddin, Abergwaun, Llanelli, Merthyr Tudful, Pontypridd a Chaerdydd.