Carnifal Cwmann 2017

gan Sian Roberts-Jones

Ar Ddydd Sadwrn, 27ain o Fai cynhaliwyd Carnifal a mabolgampau blynyddol Cwmann ar gae’r pentref. Wedi storom y bore fe gliriodd yr awyr a’n bendithio â thywydd sych i barhau â’n gweithgareddau.

Ein gosgordd am eleni oedd: Brenhines: Annest Edwards; Morynion: Niomi Carroll a Cerys Rees; Macwyaid: Will Thomas a Tom Williams; Brenhines y rhosod: Alis Jones.  Roedd pob un ohonynt yn edrych yn hardd iawn a chafwyd araith bwrpasol iawn gan Annest.

Cheryl Jones o Gaerdydd, ond gynt o Gwmann, oedd llywydd y dydd a chafwyd araith ddiddorol iawn ganddi yn sôn am ei atgofion hi o dyfu i fyny yn y pentref, a’r pwysigrwydd o berthyn i gymuned glos a gweithgar. Hoffai’r pwyllgor ddiolch o galon iddi am ei rhodd hael i goffrau’r pentref.

Braf oedd gweld ymdrech y cystadleuwyr yn y carnifal eleni eto yn ymuno yn yr hwyl yn eu gwisgoedd lliwgar. Eleri ac Alpha Evans oedd yn cael y dasg o feirniadu’r gwisgoedd a’r fflots a diolch iddynt am eu gwaith. Yn cipio’r wobr gyntaf yn y gwahanol gategoriau oedd:

Dosbarth derbyn ac iau: Ilan Alffi; Bl 1 & 2 : Ellie Gregson; Bl 3 & 4 : Casi Gregson (yr enillydd am wisg orau’r carnifal); Bl 5 & 6 : Gwenllian Llwyd; Par gorau yn Adran y plant : Ilan Alffi a Seb Gregson; Oedolyn gorau: Wendy Mason; Par gorau yn adran yr oedolion : Carys Lewis ac Elin Jones

Y thema ar gyfer y fflots oedd “Digwyddiad o’r gorffennol” a’r fflot buddugol oedd y Titanic gyda’r ail wobr yn mynd i “Back in time” gyda’r deinosoriaid.

Cafwyd llawer o gystadlu brwd yn y mabolgampau a thipyn o chwerthin wrth i’r plant uwchradd a’r oedolion gymeryd rhan yn y ras rwystrau a drefnwyd gan Owain Jones, lle bu’n rhaid iddynt wneud amrywiol dasgau yn cynnwys dwr, blawd, afalau, neidio mewn sachau, troi fel chwrligwgan a hyn mewn ras i’r llinell derfyn.

Roedd y cae yn fwrlwm o ddigwyddiadau gyda chestyll bownsio, sumo wrestlers, peintio gwynebau, stondin hwpla a thwba lwcus, gweithgaredd pel-droed, stondin losin, pantri Pantydderwen a’r W.I yn darparu bwyd, yr heddlu, y frigad dan a st john yn bresennol.

Mae’n diolchiadau i’r holl stondinwyr am eu presenoldeb, i noddwyr ein dydd sef W.D. Lewis a’i fab a Chyngor Bro Pencarreg, ac i bob un a’n cynorthwyodd fel pwyllgor i hwyluso trefniadau’r dydd.