Cefnogaeth i Ben Lake gan gyn-ymgeisydd Llafur

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae cyn-ymgeisydd Llafur yn etholiadau’r cyngor ym mis Mai wedi gadael y blaid er mwyn cefnogi ymgyrch y bachgen o Lanbed – Ben Lake, Plaid Cymru.

Roedd William Jac Rees yn ymgeisydd Llafur ar ward Llanbadarn Fawr Sulien yn etholiadau’r cynghorau lle cafodd Paul James Plaid Cymru ei ethol ym mis Mai.

Mae’r gŵr bellach wedi cyhoeddi y bydd yn cefnogi ymgyrch Ben Lake gan ddweud mai ef yw’r “unig ymgeisydd sydd gyda gwir siawns o ennill yn erbyn Mark Williams er mwyn sicrhau fydd gan bobl ifanc Ceredigion llais cryf yn San Steffan i siarad lan yn erbyn toriadau Torïaidd i’n gwasanaethau cyhoeddus yn ogystal â gweledigaeth Brecsit eithafol Theresa May”.

Ychwanegodd y byddai ethol Ben Lake yn golygu fod gan Geredigion “Aelod Seneddol a fyddai’n gallu gweithio mewn grŵp gweithgar o Aelodau Seneddol Plaid Cymru er mwyn amddiffyn Cymru a Cheredigion yn hytrach na chael un llais gwan sydd yn cael ei thynnu lawr gan ei nifer fach o gydweithwyr yn Lloegr”.

Dadrithio

Wrth egluro’i benderfyniad i adael y blaid Lafur dywedodd William Jac Rees ei fod wedi’i ddadrithio gan “blaid sydd yn ceisio portreadu ei hun fel dwy blaid hollol wahanol yng Nghymru a Lloegr…”

Ac wrth drafod yr Aelod Seneddol presennol, y Democrat Rhyddfrydol Mark Williams, ychwanegodd fod Ceredigion wedi cael ei chynrychioli “am rhy hir gan Aelod Seneddol a oedd yn ddigon parod i glymbleidio gyda’r Torïaid am 5 mlynedd, a chefnogi llywodraeth a wnaeth torri, torri a thorri gan dargedi bobl ifanc yn wael iawn ar draws Cymru”.

Y stori’n llawn ar wefan Golwg360