Dathlwyd y Pasg mewn steil
gyda ni yng Nghapel Nonni;
codwyd arian i’r sioe
a phawb yn joio’r canu!
Ar Nos Sul y Pasg (Ebrill 16eg) gwelwyd tyrfa dda wedi ymgynull yng Nghapel Nonni, Llanllwni ar gyfer Cymanfa Fodern arbennig i ddathlu Gŵyl y Pasg. Trefnwyd y gymanfa gan is-bwyllgor lleol o Bwyllgor Rhanbarth Gogledd Sir Gaerfyrddin ar gyfer Apêl y Sir fel Sir Nawdd C.A.F.C 2017. Aeth elw’r noson tuag at gronfa’r apel honno.
Arweinyddes y noson oedd Mrs Elonwy Davies o Lanybydder. Arweinyddes brofiadol a hwylus ac un sydd o hyd yn barod i hyfforddi ieuenctid y fro ym myd cerddoriaeth; ac wrth gwrs arweinyddes Côr Cwmann a’r Cylch ers chwarter canrif bellach. Yr enwog Bryan Jones, neu ‘Bryan yr Organ’, oedd yn cyfeilio gan sicrhau digon o fynd a hwyl yn y canu. A hynny heb un darn o bapur o’i flaen!
Cadeirydd Pwyllgor ymgynghorol C.A.F.C yn Sir Gaerfyrddin Mr. Eric Jones wnaeth groesawu pawb ar ddechrau’r noson. Estynodd groeso i bawb a oedd i gymryd rhan yn ogystal â llywydd C.A.F.C. Mr. Bryan Jones MBE FRAgS a’i deulu, a chadeirydd cyngor y gymdeithas Mr David Lewis DL, FRICS, FLAA, FRAgS a’i wraig Helena, cyn trosglwyddo’r awenau i Mrs Elonwy Davies.
Owain Davies fu’n cyflwyno’r eitemau. Alwena a Gwennan Owen wnaeth berfformio’n gyntaf yn cynrychioli Ysgol Gynradd Eglwys Llanllwni. Cyflwynodd y ddwy sawl unawd swynol gyda’u hathrawes ganu, Miss Eirian Jones, yn cyfeilio. Gwnaeth Alwena hefyd ganu’r delyn. Wedyn, cyflwynodd Sian Elin Williams o Bencarreg eitem ysgafn er bod ganddi neges amserol iawn i’r gynulleidfa.
Llywyddion y noson oedd Mr a Mrs Gerwyn ac Anwen Thomas, Cross Roads, Llanllwni. Dau sy’n uchel iawn eu parch yn yr ardal ydyw’r rhain; Gerwyn wedi ei eni a’i fagu yn Llanllwni ac Anwen bellach wedi hen ymgartrefu ymhlith pobl Llanllwni. Maent yn berchnogion un o hen gwmniau’r plwyf, sef T. L. Thomas ac mae ganddynt ddau o blant, Sara a Lewis sy’n aelodau brwd o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanllwni. Eric Davies, Cadeirydd Cyngor Bro Llanllwni wnaeth gyflwyno’r llywyddion i’r gynulleidfa gan ddiolch iddynt am eu cyfraniad hael iawn, ac fe wnaeth Tudur ac Einir George gyflwyno rhoddion iddynt ar ran y pwyllgor.
Darparwyd eitemau ola’r noson gan aelodau C.Ff.I Llanllwni. Llongyfarchwyd Sion Evans, un o aelodau’r clwb ar gael ei enwi yn lysgenad Ff.C.Ff.I. Sir Gaerfyrddin yn ogystal ag aelodau eraill tri chlwb gogledd y sir sydd wedi derbyn swyddi yn ddiweddar. Canodd parti merched y clwb fersiwn arbenig o ‘Calon lân’ cyn i gôr y clwb roi perfformiad grymus o ‘Gobaith yn y Tir’ gyda Catrin Davies yn arwain a Marion Howells yn cyfeilio.
Ifor Jones, Cadeirydd C.Ff.I Llanllwni wnaeth dalu pleidlais o ddiolch ar ran y trefnwyr i bawb a oedd wedi cymryd rhan a chefnogi’r noson yn ogystal a’r noddwyr sef Cyngor Bro Llanllwni a chwmni J. Davies a’i Fab, Gwastod Abbot, New Inn. Traddodwyd y fendith gan Y Parch. Suzy Bale, offeiriad â gofal Plwyf Llanllwni cyn i’r gymanfa gael ei chloi gyda’r gynulleidfa yn morio canu ‘Daeth Iesu i’m Calon i Fyw’.
Derbyniodd pawb a oedd wedi cymryd rhan, a swyddogion y gymdeithas, de yn y festri drwy garedigrwydd rhai o wargedd yr ardal. Nodwyd gan lawer iddi fod yn noson lwyddianus, a phawb wedi mwynhau. Codwyd dros £1,000 at yr achos.