Glaston-Dderi 2017

gan Bethan Payne

Ar nos Iau 20fed o Orffennaf cynhaliwyd Glaston-Dderi, gŵyl gerdd flynyddol Ysgol y Dderi. Unwaith eto roedd y disgyblion yn ein diddanu wrth ganu caneuon cyfoes gan gynnwys Blwyddyn 6 yn perfformio ‘Ni’n Beilo Nawr’ gyda’r seren ei hun, y ‘Welsh Whisperer’, yn rhannu eu perfformiad ar Twitter a Facebook. Bu perfformiadau gan gerddorion lleol yn ogystal â llu o stondinau a bwyd a diod i gadw pawb yn hapus. Roedd cwmni lleol Smiddereens (sydd hefyd yn rhieni i ddisgyblion yn yr ysgol) wedi rhoi benthyg eu pabell syrcas hardd er mwyn dal y llwyfan a’r gynulleidfa.

Diolch unwaith eto i staff Ysgol y Dderi am baratoi’r disgyblion ac i rieni a ffrindiau’r ysgol am eu cyfraniadau – boed yn gyfraniadau o fwyd/diod neu amser.  Codwyd swm arbennig o £1656 ar y noson, gyda’r arian yn mynd tuag at gyfoethogi profiadau’r disgyblion yn yr ysgol. Mae nifer o aelodau’r CRhA wedi gadael dros y blynyddoedd diwethaf felly mae’n hanfodol bod rhagor yn cymryd eu lle er mwyn sicrhau bod digwyddiadau fel hyn yn parhau i fod yr un mor llwyddiannus yn y dyfodol.  Mi fydda i yn ffarwelio â’r CRhA eleni, wrth i’m cyw melyn olaf adael am yr ysgol uwchradd ond dwi wir wedi mwynhau bod yn rhan o’r tîm ac yn annog rhieni eraill i ymuno – mae’n dipyn o hwyl!